THE latest community news from Chwilog
Sefydliad y Merched
CYNHALIWYD cyfarfod yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 15 Mehefin, pryd croesawyd Margaret Hughes, Brychyni atom.
Cawsom hanes ei bywyd ar hyd y blynyddoed ers pan yn eneth fach yn Abererch, yn fyfyrwraig yn Coleg Normal, Bangor, ei gwaith a hanes ei bywyd ar ôl priodi ag Eifion a magu teulu.
Cafwyd noson hwyliog iawn yn ei chwmni.
Diolchwyd i Margaret gan Marilyn.
Gwesteion y baned oedd Margaret Ll Jones ac Ellen.
Enillydd y raffl, rhoddedig gan Ellen, oedd Sheila.
Anwen Jones o gwmni Hufen Iâ Glasu, Bryn Rhydd, Edern oedd ein gwestai nos Wener, 6 Gorffennaf.
Cafwyd hanes sut daeth y cwmni i fodolaeth a sut mae’r cwmni wedi datblygu erbyn nawr.
Roedd Anwen wedi dod â hufen iâ o amryw o flasau gyda hi a chafodd yr aelodau wledd wrth eu blasu.
Diolchodd Ceri i Anwen.
Yn edrych ar ôl y baned oedd Rose.
Enillydd y raffl, rhoddedig gan Rose, oedd Caren.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]