THE latest community news from Chwilog

Eisteddfod Gadeiriol

HYFRYDWCH oedd cael tystio bod Eisteddfod Gadeiriol Chwilog a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, wedi denu llu o gystadleuwyr o bell ac agos, gyda’r safon yn uchel iawn.

Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, Ysgol Uwchradd Botwnnog ac Ysgol Brynaerau, Pontllyfni.

Derbyniwyd 15 ymgais ar gyfer cystadleuaeth y gadair, ar y testun “Ffin” a’r bardd buddugol oedd Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon.

Yn ystod y blynyddoedd, enillodd 28 o gadeiriau, dwy goron a phump medal rhyddiaith. Ymgeisiodd naw yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc dan 19 oed a’r enillydd oedd Beca Evans, Cwm Pennant sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Yn flynyddol cyflwynir tarian i’r cystadleuydd uchaf ei safon yn y cystadlaethau llenyddol sy’n gyfyngedig i’r ysgol leol a’r enillydd oedd Beca Llwyd.

Eleni, am y tro cyntaf, cyflwynwyd Cwpan Goffa Anthony Pozzi Jones i’r gwaith arlunio mwyaf addawol ym marn y beirniad yn yr adran ieuenctid a’r enillydd oedd Beca Llwyd. Yn flynyddol, rhoddir cwpan a rhodd ariannol gan Manon a’r plant er cof am Dr Gwion Rhys i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yng nghyfarfod y prynhawn a’r enillydd oedd Deio Llyr, Llandwrog. Yn ogystal, yng nghyfarfod yr hwyr, rhoddwyd gwobr o £50 i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yn yr oedran rhwng 15 a 25 a’r enillydd oedd Owain Rhys, Chwilog. Y llywydd oedd Felicity Roberts, Rhydypennau.

Arweiniwyd y gweithgareddau gan Leila Griffiths, Delyth Davies, Rhian Williams ac Alun Jones.

Y beirniaid oedd: Cerdd a Cherdd Dant – Nia Clwyd, Llandeilo; Llefaru – Dyfrig Davies, Llandeilo; Barddoniaeth a Llenyddiaeth – Y Prifardd Guto Dafydd, Pwllheli; Arlunio – Bethan Llwyd, Chwilog; Cyfeilyddion – Catrin Alwen, Chwilog a Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn.

Swyddogion y pwyllgor: Cadeirydd – Delyth W Davies; is-gadeirydd – Alun Jones; trysorydd – Mari Jones; ysgrifennydd – Gwyn Parry Williams.

Canlyniadau: Cerdd: Bl Derbyn ac Iau, Alys Roberts; Bl 1 a 2 Melana Gwyn Aled, Parc, Bala; Bl 3 a 4, Deio Rhys, Chwilog; Bl 5 a 6, Erin Llwyd, Glanrafon, Corwen; Unawd Alaw Werin Bl 6 ac Iau, Beth Davies, Llangernyw; Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac Iau, Beth Davies, Llangernyw; Bl 7, 8 a 9, Lowri Glyn Jones, Chwilog; Unawd Cerdd Dant Bl 7, 8 a 9, Lowri Glyn Jones, Chwilog; Unawd Alaw Werin Bl 7, 8 a 9, Tammy Perry, Pwllheli; Unawd Piano i Ddechreuwyr, Ffion Owen, Chwilog; Unawd Piano Bl 6 ac Iau, Lea M Roberts, Pwllheli; Unawd Offerynnol Chwyth neu Linynnol Bl 6 ac Iau, Lea M Roberts, Pwllheli; Unawd Offerynnol Chwyth neu Linynnol Bl 7 a Hyn, Deio Llyr, Llandwrog; Unawd Piano Bl 11 ac Iau, Tammy Perry, Pwllheli.

Llefaru: Bl Derbyn ac Iau, Nanw Williams, Chwilog; Bl 1 a 2, Leila Ellis, Llanaelhaearn; Bl 3 a 4, Deio Rhys, Chwilog; Bl 5 a 6, Cai Edwards, Chwilog; Bl 7, 8 a 9, Lowri Glyn Jones, Chwilog; Parti Llefaru Bl 6 ac Iau, Ysgol Chwilog; Bl 10-13, Owain Rhys, Chwilog; Dan 25, Owain Rhys, Chwilog; Prif Adroddiad, Erin Dwyfor Roberts, Garndolbenmaen.

Parti Llefaru: Lleisiau Cafflogion, Mynytho.

Llenyddiaeth: Derbyn a Meithrin (Ysgol Chwilog), Sophie Arthur; Bl 1 a 2 (Ysgol Chwilog), Maisey Hari; Bl 1 a 2 Elan Jones, Ysgol Brynaerau, Nanw McIntyre Huws, Ysgol Brynaerau; Bl 3 a 4 (Ysgol Chwilog), Nel; Bl 5 a 6 (Ysgol Chwilog), Beca Llwyd (Tarian); Bl 5 a 6, Lea Mererid Roberts, Pwllheli; Bl 9 ac Iau, Efa Hodge, Ysgol Botwnnog; Tlws yr Ifanc dan 19, Beca Evans, Cwm Pennant; I bob oed – Erthygl (Agored), Dilwyn Pritchard, Rachub, Bethesda; Adran y Dysgwyr (Agored), Anne Cook, Acrefair, Wrecsam.

Barddoniaeth: Cerdd y Gadair, Richard Llwyd Jones, Bethel; Englyn, Richard Llwyd Jones, Bethel; Englyn Ysgafn, R D Owen, Llanfairtalhaearn; Telyneg, Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys; Cân Ddigrif, R D Owen, Llanfairtalhaearn.

Arlunio: Meithrin a Derbyn, Alys (Meithrin) a Sophie (Derbyn). Ysgol Chwilog; Bl 1 a 2, Ela (Bl 1) a Maisey (Bl 2). Ysgol Chwilog; Bl 3 a 4, Ffion (Bl 3) a Nel (Bl 4) Ysgol Chwilog; Bl 5 a 6, Elliw (Bl 5) a Beca Llwyd (Bl 6) Ysgol Chwilog; Bl 9 ac Iau, Tomos Elgan Roberts, Pwllheli; Agored, Merfyn Jones, Pwllheli.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]