THE latest community news from Clynnog Fawr
Eisteddfod
CYNHELIR Eisteddfod Clynnog Fawr a’r Cylch nos Wener yma, 10 Mai, yn y Neuadd Bentref, drysau’n agor am 4.30yp a’r cystadlu i gychwyn am 5yp yn brydlon.
Arweinydd yr Eisteddfod fydd Nesta Jones, Pantglas. Beirniaid: Cerdd – Deilwen Hughes (Bethel), Llefaru – Carys Bowen (Nebo), Arlunio – Lois Prys (Llandwrog).
Cyfeilydd fydd Angharad Wyn Jones, a’r llywydd Caryl Vaughan Roberts, Rhuthun.
Meirion MacIntyre Huws (Clynnog Fawr), yw’r cadeirydd a’r is gadeiryddion Sioned Vaughan Jones (Pontllyfni) a Gwenda Mair Hughes (Tai Lon).
Ysgrifennydd: Gwenda Lloyd Morus (Pontllyfni), Ysgrifennydd y Wasg: Karen MacIntyre Huws (Clynnog Fawr), a’r trysorydd: Glenda Evans (Pontllyfni).
Canolfan Hanes
EIN Gwir Hanes: Morrisiaid Môn, fydd y cyfarfod nesaf rhwng 10yb ac 1yp ddydd Sadwrn, 18 Mai, pryd y ceir sgyrsiau hynod ddifyr gan y Parch Ddr Dafydd Wyn Wiliam sydd wedi arbenigo ar y Morrisiaid, a Tegwyn Jones ar Lewis Morris.
Bydd paned yn y canol ac os dymunir gellir dod â thamaid i’w fwyta. Ni chodir tâl mynediad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.