THE latest community news from Comins Coch
Gwobr cyfieithwyr
MAE cyfieithydd o Gomins Coch wedi derbyn Gwobr Goffa Wil Petherbridge.
Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge i Angharad Eleri Edwards gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru er cof am gyn-ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru.
Caiff ei rhoi i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg, os bernir fod teilyngdod.
Wrth gyflwyno’r wobr i Angharad, dywedodd Claire Richards, cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: “Rydym yn llongyfarch Angharad yn wresog iawn ar ei champ, ac ar yr un pryd yn cofio’n annwyl iawn am gyfaill a chydweithiwr y bu ei golli’n ergyd drom iawn.”
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.