CYNHALIWYD Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar nos Iau, 27 Hydref a dydd Sadwrn, 29 Hydref ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.
Mae’r eisteddfod yn un o brif atyniadau y ffermwyr ifanc yn eu calendar llawn o weithgareddau.
Cloriannwyd y cystadlaethau gan y canlynol – Cerdd: Huw Foulkes, Caerdydd; Llefaru: Ann Fychan, Abercegir; Adran Ysgafn: Nia George, Sir Benfro; Llên: Karen Owen, Dyffryn Nantlle; Alaw Werin: Dafydd Jones, Ystrad Meurig; Dawns: Gethin Page; Caerfyrddin; Cywaith Clwb: Ffion Medi Lewis-Hughes; Celf: Elonwy Evans; Ffotograffiaeth: Dwynwen Lloyd Llywelyn.
Y cyfeilyddion oedd Gwawr Jones a Neli Jones. Llywydd anrhydeddus yr eisteddfod oedd Mared Rand Jones, Llanfair Fach a chafwyd ganddi araith bwrpasol iawn a rhodd anrhydeddus i’r Mudiad. Diolch i brif noddwyr yr eisteddfod eleni, sef Siop y Pethe, Teithiau Tango a Cambria Tours. Yn ogystal, diolch i Banto Nadolig Theatr Felinfach a Cegin Cig Cymru.
Enillwyd yr eisteddfod gan glwb Llanwenog, gyda 95 o farciau, clwb Pontsian yn ail gyda 86 o farciau a Felinfach yn drydydd gyda 85 o farciau. Mererid Davies, cadeirydd y Sir, oedd yng ngofal Seremoni y Gadair a’r Goron.
Canwyd cân y seremoni gan Ffiona Henson o glwb Llanddeiniol a seiniwyd y Corn Gwlad gan John Jenkins o glwb Lledrod. Trafodwyd y feirniadaeth gan y beirniad Karen Owen. Enillwyd y gadair gan Ceris James o glwb Mydroilyn gyda’i cherdd ar y testun ‘Gwawr’.
Rhoddwyd y gadair gan Bethan Roberts, Brenhines y Sir a Dewi Jenkins, Ffermwr Ifanc y Sir, o waith Carwyn Davies o glwb Llanwenog. Mared Davies, Felinfach ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y gadair a Megan Lewis, Trisant ddaeth yn drydydd.
Enillwyd y Goron gan Lisa Mai Jones o glwb Pontsian gyda’i stori fer ar y thema ‘Chwaraeon neu Gwledig’.
Rhoddwyd y goron gan Mererid Davies, cadeirydd y Sir, ac fe’i gwnaethwyd gan Arwel Jones, Llanarth. Rhian Evans, Felinfach ddaeth yn ail gydag Elliw Davies, Caerwedros yn drydydd.
Dyma restr o’r rhai ac enillodd gwpanau’r eisteddfod: Parti Llefaru: Cwpan her Janet Morgan, Pant-Defaid – Llanwenog; Parti Unsain: Cwpan Coffa her parhaol Penlanlas Isaf – Pontsian; Meimio i Gerddoriaeth: Cwpan her Mared Rand Jones – Llangeitho; Sgets: Cwpan her parti drama Dyffryn Cletwr – Llanddewi Brefi; Unawdydd gorau: Cwpan her Mr a Mrs Gwyndaf James – Jay Snow, Troedyraur; Llefarydd gorau: Cwpan y diweddar Mr a Mrs Elfyn Owen – Rhian Evans, Felinfach; Côr: Cwpan Her y diweddar Arglwydd Geraint Howells – Caerwedros; Marciau uchaf yn y Gwaith Cartref: Cwpan her Heather Price, Esgereinon – Felinfach; Marciau uchaf yng nghystadlaethau Llwyfan: Tlws teulu Hatcher, Cefnhafod – Llanwenog; Ail fuddugol yn yr Eisteddfod: Tlws Coffa Eryl Jones, Mydroilyn – Pontsian; Clwb Buddugol: Tlws Teulu Hafod Iwan – Llanwenog.
Cafwyd hefyd ganlyniadau y cystadlaethau canlynol: Llyfr Lloffion – Mydroilyn; Llyfr Trysorydd – Llanwenog; Llyfr Cofnodion – Llanwenog.
Dyma ganlyniadau nos Iau – Dawnsio Gwerin: Mydroilyn; Unawd Alaw Werin 26 neu iau: Beca Williams, Talybont; Meimio i Gerddoriaeth: Llangeitho; Cân Gyfoes: Pontsian.
Canlyniadau dydd Sadwrn – Unawd 13 neu iau: Cadi Williams, Talybont; Llefaru 13 neu iau: Siwan George, Lledrod; Unawd 16 neu iau: Beca Williams, Talybont; Llefaru 16 neu iau: Gwion Ifan, Pontsian; Unawd 21 oed neu iau: Ianto Jones, Felinfach; Llefaru 21 neu iau: Meleri Morgan, Llangeitho; Unawd 26 neu iau: Heledd Besent, Mydroilyn; Llefaru 26 neu iau: Rhian Evans, Felinfach; Canu Emyn Nofis: Lowri Davies, Caerwedros; Unawd Offerynnol: Jay Snow, Troedyraur; Monolog neu Ymgom Ysgafn: Rhian Evans, Felinfach; Canu Emyn: Elain Davies, Caerwedros; Ensemble Lleisiol: Talybont; Parti Llefaru: Unawd Sioe Gerdd: Heledd Besent, Mydroilyn; Parti Unsain: Pontsian; Sgets: Llanddewi Brefi; Deuawd: Mair a Catrin, Troedyraur; Stand-Up: Cennydd Jones, Pontsian; Deuawd neu Driawd Doniol: Guto, Iwan a Llyr, Llanddewi Brefi; Côr cymysg: Caerwedros.
Gwaith Cartref - Stori fer: Lisa Mai Jones, Pontsian; Cerdd: Ceris James, Mydroilyn; Cyfansoddi Alaw: Heledd Besent, Mydroilyn; Cywaith Clwb: Llanwenog; Portread o’ch arwr (26 oed neu iau): Luned Mair, Llanwenog; Parodi ar eiriau unrhyw gân enwog (21 neu iau): Twm Ebbsworth, Llanwenog; Creu cwis ar gyfer noson clwb (16 oed neu iau): Briallt Williams, Llanwenog; Neges drydar: Glesni Thomas, Pontsian; Cyfansoddi Dawns Werin: Carys Stephens, Mydroilyn; Ffotograffiaeth: Gwyn Evans, Felinfach; Limrig: Elen Lloyd-Jones, Pontsian; Celf: Sioned Jones, Mydroilyn; Dylunio ‘Geo Filter’: Carwyn Rees, Pontsian; Prosiect Clwb: Felinfach; Rhaglen Clwb: Pontsian.
Pob lwc yn awr i bawb a fydd yn cynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Cymru a yn Neuadd Y Brangwyn, Abertawe ar 19 Tachwedd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.