THE latest community news from Felinfach

Merched y Wawr

ADRODDIAD Chwaraeon Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion:

Cynhaliwyd y rownd 1af Chwaraeon Rhanbarth Ceredigion ar nos Iau, 28 Mawrth yn Neuadd Felinfach. Roedd 10 tîm yn cystadlu yn y Dominos gyda Changen Felinfach (Enid Evans a Beti Davies) yn gyntaf, Llanbedr Pont Steffan (Eryl Davies a Pat Davies) yn ail a Changen Mynach (Eiry Jones a Mair Davies) yn drydydd,

Yng nghystadleuaeth Dewis Dau Ddwrn roedd 7 tîm wedi cystadlu, gyda Clwb Gwawr y Gwenoliaid (Aerona Davies, Janice Evans ac Anwen Hughes) yn gyntaf, Cangen y Bryniau (Gwendoline Evans, Eirwen Evans a Joyce Evans ) yn ail a Changhennau Llanbedr Pont Steffan (Elin Williams, Mary Davies ac Elma Phillips), Llanybydder (Susan Evans, Heather Jones a Bet Davies) a Bronant (Eirlys Humphries, Eluned Jones a Dorothy Lewis) yn gydradd drydydd.

Diolch i bawb am gystadlu ac edrychwn ymlaen at y rownd nesaf sef cystadleuaeth y Dartiau ar nos Lun 8 Ebrill yn Nhafarn y Bont, Bronant a Chystadleuaeth Sgrabl a Chwist ar nos Iau, 11 Ebrill yn Neuadd Felinfach. Dechrau am 7.30yh ar gyfer y ddwy noson.

Pasg

BYDD rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal yn Nyffryn Aeron i redeg lan i Pasg yma.

Ar ddydd Sul, 14 Ebrill, am 2yp, bydd Dilyn yr Asyn yn digwydd yn Dihewyd.

Ar nos Fercher, 17 Ebrill am 7.30yh yn Neuadd Felinfach, bydd perfformiad o Holl Hanes Cristnogaeth mewn 60 munud fflat! gan Catrin Williams, Densil Morgan, Eryn White, John Roberts ac eraill

Y Swper Olaf yn cael ei gynnal ar nos Iau yn Eglwys Mydroilyn am 6.30yh ac ar Ddydd Gwener y Groglith am 9.30yb yn Ysgol Felin-fach bydd Llwybr y Groes.

Yn dilyn am 10yb, bydd Gwasanaeth y Groglith yn Eglwys Ystrad dan arweinydd y Parch Ganon Eileen Davies.

As Nos Sul y Pasg am 7yh yng Nghapel Ciliau Aeron bydd Cymanfa a Stori’r Pasg gan Carys Lewis (arweinydd) a storiwyr Dyffryn Aeron.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]