THE latest community news from Ffair Rhos

Treialon C?n Defaid

CYNHALIWYD y treialon ar 22 Awst ar gaeau Tynddôl, trwy garedigrwydd Mr a Mrs D T Owen a’r teulu.

Y beirniad oedd Irwel Evans, Pentre Gwnnws, a chafodd ddiwrnod prysur yn cloriannu ymron i 70 o g?n am naw awr yn ddi-dor cyn i’r niwl clos orfodi dod â’r cyfan i ben ychydig ar ôl 5yh, ond llwyddodd pob cystadleuydd i gael o leiaf dau rediad.

Fel sydd wedi bod yn gyffredin yn y blynyddoedd diwethaf, roedd naws rhyngwladol i’r cystadlu gyda chystadleuwyr o chwech gwlad yn bresennol.

Yn ogystal â Chymru a Lloegr, gwelwyd cynrychiolaeth o Siapan, Yr Eidal, Sweden a’r Almaen.

Llywydd y treialon eleni oedd Gerwyn Jones, gynt o Bontrhydfendigaid, ond bellach ers blynyddoedd maith o Shooters Hill, Llundain. Teithiodd yn arbennig yr holl ffordd ar gyfer y diwrnod.

Cyflwynodd gwpan hynod o hardd i’r prif enillydd, sef Jeff Evans, Ffos-y-bleiddiaid, Swyddffynnon a hynny er cof am ei rieni a oedd mor gefnogol o‘r treialon ar hyd y blynyddoedd.

Mor hyfryd oedd gweld dau fachgen ifanc yn cynorthwyo i ddidoli’r defaid ym mhen pella’r cae drwy’r dydd, sef William Caron Lewis a Garin Evans, a braf oedd gweld gweithiwr ifanc arall, Gwyndaf Owen, yn gwella ar ôl ei ddamwain yn ddiweddar.

Dyma restr yr enillwyr: Dull Cenedlaethol: 1, Jeff Evans gyda Scot (colli 11 pwynt), ennill cwpan y llywydd Gerwyn Jones er cof am ei rieni; 2, Daniel Jarman gyda Roy (-14); 3, Daniel Rees gyda Meg (-17); 4, John Price gyda Tess (-20); 5, Lisa Hanson o Sweden, gyda Lisbon (-21); 6, Maria Inge o’r Eidal, gyda Jimmy (-24).

Dull De Cymru: 1, Dewi Jenkins gyda Moss (colli wyth pwynt); 2, Daniel Rees gyda Spot (-13); 3, Jeff Evans gyda Rick (-15); 4, Eirian Morgan gyda Spot (-18); 5, John Wheaton gyda Kim (-20); 6, Bryan Pugh gyda Glen (-21).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]