THE latest community news from Ganllwyd

Cyfarfod

CYNHALIWYD cyfarfod yn y neuadd bentref ar 2 Hydref.

Y gwraig wadd y tro yma oedd Bet Huws sy’n gweithio i Menter Iaith Gwynedd a’i thestun oedd ‘Hunaniaeth’.

Cawsom sgwrs ddifyr ganddi yn sôn am yr hyn gellir ei wneud i hyrwyddo’r iaith, fel cychwyn pob sgwrs yn Gymraeg.

Roedd pawb wedi mwynhau ei sgwrs a diolchodd Marian iddi ar ein rhan.

Cafwyd pwyllgor byr ar y diwedd.

Dewiswyd tîm i fynd i’r cwis cenedlaethol ar 10 Tachwedd, sef Mary, Eirian, Haf ac Eirlys.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 6 Tachwedd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]