THE latest community news from Lampeter

Cylch Cinio

CYNHALIWYD cyfarfod y mis yn y clwb rygbi ar nos Iau, 1 Tachwedd, dan lywyddiaeth Eifion Williams a’r gwestai arbennig a groesawyd ganddo oedd y gyflwynwraig deledu adnabyddus, Yvonne Evans.

Yn enedigol o Aberystwyth, ond wedi cael ei magwraeth a’i haddysg yn Aberaeron, cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, y mae Yvonne bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i gwmni teledu Tinopolis.

Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, bu’n cyflwyno’r tywydd ar y sianel ac erbyn hyn mae hi hefyd yn gyflwynwraig a chyfwelydd ar raglenni Prynhawn Da a Heno.

‘Gyrfa yn y cyfryngau’ oedd teitl ei sgwrs a chafwyd noson ddifyr a hwyliog yn ei chwmni. Yn ogystal â sôn am rai o heriau ymarferol a thechnegol gwaith cyflwynwraig teledu, cafwyd tipyn o wyddoniaeth tywydd ganddi, wrth iddi gyfeirio at rai o’r digwyddiadau tywydd anarferol a ddaeth i’n rhan a phwysigrwydd y jetlif i batrwm ein tywydd.

Soniodd am ei chysylltiadau teuluol â Llanbed ac am y mwynhad a’r croeso a gafodd wrth wneud cyfweliadau teledu yn ddiweddar gyda Mr a Mrs Jones, Felindre, Cwmann a Mrs P Morgan ym Mwlchllan. O fyd y cyfryngau, cafwyd sawl hanesyn ganddi hefyd o’i phrofiad o gydweithio gyda Ray Gravell, gan nodi maint y gwacter o’i golli.

Rhoddwyd diolch ffurfiol i Yvonne gan Andrew Jones, Felindre am sgwrs gartrefol a naturiol, a oedd hefyd yn cynnwys dyfnder.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Iau, 6 Rhagfyr pan groesawir Eirios Thomas MBE, cyn-drefnydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, i sôn am ei phrofiad o weithio gyda phobol ifanc.

Cymdeithas Hanes

OVER the last four years the society has been exhibiting material pertinent to each year of the Great War, 1914-1918, which commemorated the people and events which were relevant to Lampeter and the surrounding area, with a particular emphasis on those who lost their lives. This has been supplemented by a World War One-related presentation each year, beginning with that given by the chairman four years ago about the nurse, Ella Richards.

At the most recent meeting, Meic Birtwistle completed this series of talks, with a presentation based upon his book Rhyfelgan, a collection of World War One songs, which was the highlight of the Radio Cymru Remembrance programme broadcast on 9 and 11 November. This is still available on the BBC iPlayer. He took society members through a series of songs, some jingoistic from the home front in Wales, as well as anti-war anthems and love songs. Many of these had been written and performed locally, and a wide range were presented in “leave” concerts when soldiers paid a short visit to their homes prior to returning to the front.

St Peter’s Church

SATURDAY, 1 December: Christmas fair from 10am to noon in the church hall. Lots of stalls.

Sunday, 2 December: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, a service for Advent Sunday.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]