THE latest community news from Lampeter
Eisteddfod Pantyfedwen
CYNHELIR Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan ar benwythnos G?yl y Banc sef 24, 25 a 26 Awst yn Ysgol Bro Pedr.
Agorir yr ?yl am 1.30yp ar y Sadwrn gan gadeirydd gweithgar y pwyllgor gwaith, sef Rhys Bebb Jones, gyda’r cystadlaethau cyfyngedig i blant lleol yn dilyn.
Ceir cystadlaethau agored amrywiol yn ystod y prynhawn a’r hwyr yn cynnwys canu emyn dros 50, ensemble lleisiol, parti llefaru a chyflwyniad digri.
Cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel Soar ar y Sul am 10.30yb gyda’r Parch Gareth Morgan Jones yn gwasanaethu.
Nos Sul bydd cystadleuaeth Llais Llwyfan Llambed am 7yh yn agored i gantorion ifanc dan 30 oed a’r wobr gyntaf yn £1,000.
Bydd maer y dref, y Cyng Rob Phillips, y agor yr ?yl am 11.15yb ar y dydd Llun gyda chystadlaethau agored i blant ac i ieuenctid yn dilyn.
Yn ystod y prynhawn bydd seremonïau’r Fedal Ryddiaith a’r Cadeirio a daw’r Eisteddfod i ben gyda’r Her Unawd a’r brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed.
Hefyd nos Lun yn festri Shiloh am 7yh cynhelir Talwrn y Beirdd.
Yn ystod y penwythnos cofiwch alw heibio i’r adran gelf a chrefft sydd fel arfer yn werth ei gweld.
Y llywyddion eleni yw Meinir Ebbsworth, Llanwnnen; Elsi Jones, Llambed; ac Eifion Williams, Cwmann.
Felly dewch ynghyd i fwynhau gwledd o gystadlu. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr.
Croeso cynnes i bawb.
Am fanylion pellach cysylltwch â Dorian Jones yr Ysgrifennydd Cyffredinol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.