THE latest community news from Lampeter
Cylch Cinio
DAETH aelodau Cylch Cinio Llanbedr Pont Steffan ynghyd ar 3 Hydref yn y clwb rygbi dan lywyddiaeth Haydn Richards.
Dros yr haf fe lwyddodd yr ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, i drefnu rhaglen amrywiol a diddorol ac yn sicr rhoddwyd dechreuad da i’r tymor gan ?r gwadd y noson, y Parch Lyndon Lloyd OBE, cynghorydd sir dros gymuned Beulah ers 15 mlynedd a llywydd Cyngor Henoed Ceredigion.
Fel un fu’n dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol yn y maes gwasanaethau cymdeithasol, yr oedd ei destun, Syr David Owen Evans: Awdur Cynllun Pensiwn Gwladol, yn amlwg yn agos i’w galon ac adlewyrchwyd hynny yn y cyfoeth o wybodaeth a rannodd ac aelodau’r cylch.
Diolchwyd i Mr Lloyd gan ei gydgynghorydd sir, Hag Harris.
Swyddogion eraill y cylch am dymor 2019/20 yw Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol,) John Davies, Tynlofft (is-lywydd), Tom James (trysorydd) a Richard Marks (swyddog y wasg).
Cynhelir cyfarfod nesaf y cylch ar 7 Tachwedd am 7.30yh yn yr un lleoliad pan groesawir Eleri Twynog i sôn am ‘ddod â hanes Cymru yn fyw i’n plant’.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.