THE latest community news from Lampeter
Cymorth Cristnogol
ER gwaetha’r tywydd garw daeth cynulliad teilwng ynghyd i Eglwys San Pedr i noson flynyddol Cymorth Cristnogol sef Carol, Cerdd a Chân.
Estynnwyd croeso cynnes i bawb ac offrymwyd gweddi agoriadol gan y Parch Ddr Marc Rowlands.
O’r dechrau teimlwyd naws hudolus y Nadolig yng nghwmni Côr Merched Corisma, Côr cynradd Bro Pedr, Côr newydd Bytholwyrdd, Kees Huysmans, Aled Wyn Thomas a chynrychiolwyr Adran ac Aelwyd yr Urdd sef Ela Mablen, Beca Ebenezer a Sara Elan â phob un ohonynt yn ein tywys i Fethlehem trwy gyfrwng perfformiadau disglair iawn.
Hefyd cyflwynwyd darlleniadau deallus o’r Beibl gan Pat Jones ac Ifan Meredith a chyhoeddwyd y carolau yn raenus gan Lisa Evans ac Elin Davies, swyddogion Bro Pedr. Pleser oedd gwrando ar Manon Richards yn darllen cerdd fuddugol arbennig iawn Twm Ebbsworth yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn ddiweddar yn sôn am un o’r ffoaduriaid oedd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth.
Ar ddiwedd y noson talodd Twynog, cadeirydd pwyllgor Cymorth Cristnogol deyrnged uchel i’r rhai oedd wedi cymryd rhan a’n paratoi ar gyfer G?yl y Geni mewn rhaglen mor safonol, gyda nifer ohonynt yn enillwyr cenedlaethol.
Hefyd datganodd ei werthfawrogiad i’r Parch Ddr Marc Rowlands a wardeiniaid San Pedr am bob cydweithrediad, i Elonwy Pugh Huysmans am ei chyfraniad gwerthfawr wrth yr organ a hynny yn flynyddol ers y cychwyn nôl yn 1987, i’r stiwardiaid wrth y drws, i bawb am eu cefnogaeth ac i Janet am ei threfniadau trylwyr a sicrhau gwasanaeth artistiaid o fri.
O ganlyniad, codwyd swm anrhydeddus o £930 tuag at Gymorth Cristnogol.
Wrth adael yr eglwys tystiau pawb mai da oedd bod yn bresennol i ddathlu geni’r Iesu mewn noson ardderchog ac ar yr un pryd codi arian at achos mor deilwng.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.