THE latest community news from around Lampeter.
Ysgol Bro Pedr
Year 11 pupil Tomos Jones and Year 12 pupil Iwan Evans have been selected for the Under-18s Wales Men’s Touch Rugby team.
Iwan was also selected to captain the team when they travel to the Netherlands in August to compete against England, France and Scotland in the Junior Touch Rugby Championship 2016
Capel Brondeifi
IOAN Wyn Evans gymerodd y gwasanaeth ar ddydd Sul, 12 Mehefin, a bu’n siarad am ei brofiadau diweddar yn Lesotho yn neheudir Affrica – gwlad sydd wedi ei llethu gan sychder.
Ar ddydd Sul, 19 Mehefin, cafwyd gwasanaeth cymundeb, gyda’r Parch Goronwy Evans wrth y llyw.
Y Sul canlynol, 26 Mehefin, trefnodd Alun Wyn Dafis daith i aelodau’r capel a’r Ysgol Sul.
Dechreuodd y daith yn Theatr Felinfach a chafwyd gwasanaeth arbennig yno i gloi’r Penwythnos Ieithoedd Lleiafrifol. Y Parch Cen Llwyd oedd yn llywyddu’r gwasanaeth, a phlant yr Ysgolion Sul yn cymryd rhan. Cafwyd anerchiad cofiadwy iawn gan Dylan Iorwerth.
Wedi cwpaned a thost aeth pawb ymlaen i Gapel Llwynrhydowen. Yno bu’r Parch Wyn Thomas yn rhoi cefndir a hanes y capel i ni. Yna roedd gweithgaredd chwaraeon wedi ei drefnu gan Melda Grantham, a fu Alun Wyn Dafis yn cynorthwyo ar yr accordion.
Ymlaen wedyn i hen efail Griff Jenkins y Gof yng Nghwrtnewydd. Treuliwyd amser diddorol yno yng nghwmni Peter, ei fab. Bu’n olrhain hanes y grefft a’n arddangos ei sgiliau gyda’r haearn.
Cei Newydd oedd nesaf. Cafwyd cyfle i fynd allan ar gwch yno, gyda phryd delfrydol o bysgod a sglodion i ddilyn ar derfyn diwrnod cofiadwy iawn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.