THE latest community news from Lampeter

Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen

BYDD Eisteddfod Pantyfedwen yn cyrraedd carreg filltir bwysig iawn eleni wrth ddathlu hanner canrif ers y cychwyn nôl yn 1967, pryd y cynhaliwyd yr wyl mewn pabell.

Cynhelir yr eisteddfod eleni yn ôl yr arfer ar wyl y banc, sef 26-28 Awst, yn Ysgol Bro Pedr.

Agorir yr wyl am 1.30yp ar y Sadwrn gan gadeirydd y pwyllgor gwaith, sef Delyth Morgans Phillips ac yna cynhelir cystadlaethau i blant y dalgylch a hefyd seremonïau Cadeirio’r Bardd, Tlws Ieuenctid dan 25 a llawer mwy.

Bydd Oedfa Undebol yng Nghapel Noddfa am 10yb ar y Sul gyda’r Parch Talfryn Jones, Rhydaman, yn gwasanaethu, gyda chymorth ieuenctid yr eglwys.

Nos Sul bydd cyfle i gantorion dan 25 oed gystadlu am wobr o £1,000 yng nghystadleuaeth Llais Llwyfan Llambed.

Bydd maer y dref, Cyng Hag Harris yn agor y gweithgareddau ar y dydd Llun am 11.15yb ac yn dilyn bydd cystadlaethau agored amrywiol i blant ac i oedolion.

Daw’r cystadlu i ben gyda’r Her Unawd dros 25 a’r Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21.

Trefnir Talwrn y Beirdd yn Festri Shiloh am 7yh nos Lun, heb anghofio’r arddangosfa gelf a chrefft sy’n werth ei gweld yn ystod y penwythnos.

Y llywyddion eleni yw Shân Cothi, Kees Huysmans a Dorian Morgan. Estynnir croeso cynnes i bawb. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth.

Cynhelir Cyngerdd Mawreddog yn Theatr Felinfach ar noson Sadwrn, 16 Medi, i nodi pen-blwydd arbennig yr eisteddfod yng nghwmni artistiaid o fri, sef Côr Merched Canna Caerdydd, Steffan Rhys Hughes a Charlie Lovell Jones. Tocynnau ar gael o’r theatr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]