THE latest community news from Lampeter

Custard Queens WI

Willow weaving, a health and well-being talk, singing, the psychology of language, an archaeological walk around, Lampeter, a quiz, a trip to St Fagan’s, and tea with the Lampeter WI are just a few of the things Custard Queens have done this year, along with their regular crafternoons

The WI was founded during the First World War so that women could help the war effort. Lampeter WI is 101 years old.

Last year Custard Queens helped them celebrate their centenary.

Custard Queens is four years old, a young WI for women of all ages. Their age range is from 20 to 70+ and they meet monthly on a Sunday night – the first Sunday in the month at 7pm in the Scout Hall.

Members can belong to both Lampeter WIs,or to other local WIs.

Custard Queens has a Facebook page and welcomes all women.

Shiloh a Soar

ELSIE Jones oedd y gwestai yng nghyfarfod cyntaf y Gymdeithas Ddiwylliadol ar brynhawn Iau, 9 Tachwedd. Estynnodd y llywydd Philip Lodwig groeso i aelodau Eglwys Noddfa, gan obeithio y byddant yn medru ymuno â’r gymdeithas am weddill o’r cyfarfodydd.

Cafodd Elsie ei magu ym mhlwyf Llanddewi Brefi – y plwyf mwyaf yng Nghymru sy’n ymestyn o ffarm Nantllwyd i Bont Llanio. Byw ar ffarm Bryncarreg oedd Elsie yn ystod ei magwraeth, oedd bum milltir o Landdewi, Soar y Mynydd a Bethel Cwmpedol y Ffarmers.

Cyflwynodd Elsie ddarlun byw o’r profiadau a chafwyd orig ddifyr yn ei chwmni â phawb yn cofio yn ôl i gyfnod bore oes ac fel mae sefyllfa amaethu wedi newid erbyn heddiw.

Ar ôl cymdeithasu dros baned, daeth cyfle i ganu pen-blwydd hapus i Gwen a Sid Evans, yr Hendre, Stryd Newydd ar ddathlu eu pen-blwydd o fewn diwrnodau i’w gilydd yn 90 oed.

Bydd y cyfarfod nesaf ar brynhawn Iau, 7 Rhagfyr am 2yp pan fydd cyfle i fwynhau rhagor o ffilmiau Bethan Phillips.

Noddfa

DAETH cynulliad teilwng ynghyd i wasanaeth Diolchgarwch yng ngofal yr Ysgol Sul.

Mewn pennill a chân canolbwyntiwyd ar ran bwysig o’r corff, sef y dwylo. Braf oedd gweld 26 yn cymryd rhan, yn cynnwys plant, pobol ifanc a’u rhieni.

Yn ystod yr oedfa bu’r plant yn gwylio ffilm yn dangos Iesu yn derbyn plant bychain ac yn dilyn hyn bu Janet yn holi cwestiynau â’r ymateb yn dda, yn enwedig wrth y rhai lleiaf.

Talodd y gweinidog, y Parch Jill Tomos ddiolch i bawb oedd wedi cyflawni eu gwaith mor raenus, i’r rhieni am eu cefnogaeth, i Janet am ei threfniadau manwl a’i syniadau newydd unwaith eto ac i Derek a Roy am baratoi’r llwyfan.

Talodd Janet ei gwerthfawrogiad hefyd i bawb am eu cydweithrediad parod ac i Jill am ei gwaith gyda’r offer technegol.

Llongyfarchodd Beca ar ennill ei chap cyntaf i Gymru mewn athletau, gan ddymuno’n dda iddi pan fydd yn cystadlu yn Glasgow.

Hefyd llongyfarchodd Sion, cefnder Beca ar ennill nifer o gystadlaethau rasys beiciau modur ar hyd a lled y wlad.

Wrth droi tuag adre roedd pawb yn uchel eu canmoliaeth o gyfraniadau’r plant, y bobol ifanc a’u rhieni mewn gwasanaeth arbennig i ddiolch i Dduw am ei holl fendithion.

Cylch Cinio

NOS Fawrth, 2 Tachwedd oedd noswaith ail gyfarfod y tymor i’r Cylch Cinio, yng Nghlwb Rygbi’r dref. Croesawodd y llywydd, Richard Marks yr aelodau i’r cyfarfod wedi iddyn nhw gael eu digoni gan bryd ardderchog, gan gyflwyno y siaradwraig am y noswaith, sef Elin Williams.

Teitl ei noswaith oedd ‘Noswaith yng nghwmni Elin Williams.’ Dechreuodd trwy rybuddio na fyddai gormod o ffurfioldeb yn ei sgwrs.

Siaradodd Elin am elfen oedd wedi ei phoeni erioed – methu cofio bob math o bethau.

Enwodd amryw, rhai’n ysgafn a rhai yn creu gofid. Onid ydym oll wedi profi hyn, ond heb fod mor fodlon i gyfaddef y gwendid. Nid felly Elin.

Soniodd sut mewn hamdden a gwaith y byddai’n chwilio am foddion i gofio sut i gofio a chwap wedyn yn ceisio darganfod sut i gofio sut i gofio.

Atalnododd yr hanes difyr a digrif hyn gyda darnau o farddoniaeth wreiddiol, gan greu awyrgylch ac agosatrwydd dymunol iawn.

Dyma un wyddai sut i ddiddanu wrth ddysgu.

Pa ryfedd iddi ennill clod trwy ei gwaith gyda phlant ac ieuenctid a gweithgareddau Cymreig ledled y wlad.

Ar y diwedd, rhybuddiodd mai’r perygl pennaf sy’n taenu o ddiffyg cofio yw anghofio’n llwyr a thrwy hynny, golli ymadroddion, idiomau a chyffelybiaethau sy’n cyfoethogi ein hiaith.

Diolchwyd iddi gan Haydn Richards ac eiliwyd hyn gan bawb.

Church services

St Peter’s Church Sunday, 26 November: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid; 10.30am Holy Communion bilingual.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]