THE latest community news from Lampeter
Capel Brondeifi
AR ddydd Sul, 1 Ebrill, Sul y Pasg, y gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis, oedd yn gwasanaethu, gan drafod pwysigrwydd ac effaith ‘gadgets’ ar y byd modern. Ar y Sul canlynol, cynhaliwyd y Sul Pawb Ynghyd, achlysur blynyddol ym Mrondeifi ers degawdau bellach. Cafwyd Cymundeb fel rhan o’r digwyddiad yn ôl yr arfer, gyda’r gweinidog yn gwasanaethu.
Y Parch Alun Wyn Dafis oedd yn y pulpud hefyd y Sul wedyn, 15 Ebrill. Ar y Sul, 22 Ebrill cynhaliwyd y Gymanfa Ganu flynyddol yng Nghapel Alltyblaca.
Ar nos Wener, 20 Ebrill bu criw o blant Brondeifi yn cymryd rhan mewn Cinio Cyfeillgarwch ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.
Trefnwyd yr achlysur gan Academi Sinoleg a Diwylliant Addysg Sylfaen Chin Kung yn y brifysgol.
Darparwyd lluniaeth arbennig yn ffreutur y brifysgol a chafwyd noson lwyddiannus a hynod ddiddorol, gyda thorf dda yn mynychu i ddysgu mwy am rai o draddodiadau a diwylliant hynafol rhan arbennig o gyfandir Asia.
Braf cofnodi hefyd fod Eirene Jones, Pentre’r Eglwys, Pontypridd, wedi dathlu ei phenblwydd yn 97 oed ar 25 Ebrill. Mae’n dal i gymryd diddordeb mawr ym mhopeth sy’n digwydd ym Mrondeifi, er ei bod hi’n byw yn y de ddwyrain ers blynyddoedd bellach. Mae hefyd yn manteisio ar bob cyfle posib i ddychwelyd i fynychu ambell oedfa yn y capel. Mae Mrs Jones yn llawn bywyd a’n ysbrydoliaeth i bawb sy’n ymwneud gyda hi.
Merched y Wawr y Dderi
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y llywydd Gwyneth Jones. Y wraig wadd oedd Beti Griffiths a chafwyd noson rhagorol yn ei chwmni diddan.
Bu’n sôn am ei hatgofion am ei bro genedigol a chymeriadau’r ardal, ei phrofiad fel athrawes a phennaeth ysgol, a’r blynyddoedd a dreuliodd fel ynad heddwch.
Talwyd pleidlais o ddiolch am noson ddifyr a diddorol ag hanesion cefn gwlad gan Rita Jones.
Dymunwyd adferiad buan a llwyr i bawb o’r aelodau oedd yn sâl.
Bu trafodaeth ar ble i ymweld ar y trip blynyddol. I’r cyfarfod nesaf bydd angen syniadau ac enwau siaradwyr gogyfer â 2018-2019.
Rhoddwyd y raffl gan Mary Jones ac fe’i henillwyd gan Eleanor Evans.
I ddiweddu y cyfarfod cafwyd lluniaeth ysgafn gan Deborah a Gwyneth Jones.
Y wraig wadd ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 16 Mai fydd Eirwen James.
Church services
Betws Bledrws, Lampeter – Holy Eucharist, Sunday, 6 May, 10.45am. A new half-hour Christian Meditation will be held on Monday, 7 May at 6pm, and then regularly on Mondays. Wednesday, 9 May – Holy Eucharist and Ministry of Healing, 10.45am. Everyone welcome.
St Peter’s Church, Lampeter – Friday, 4 May, Monthly lunch with proceeds to the work of Christian Aid, from noon til 1.30pm in the church hall. Sunday, 6 May – One service only, 8am, Holy Communion.
Lampeter Bridge
ANOTHER great evening, with Andrew and John scoring 80 per cent, an almost unheard of score.
Full results: 1 Andrew Phillips and John Evans, 80 per cent; 2 Herbie Rowley and Mair Harrison, 55 per cent; 3 Keith Bellamy and Dai Hayes, 47.5 per cent; 4 Ron Jones and Nigel Symmons-Jones, 42 per cent; 5 Martin Davies and Gwenda Davies, 25 per cent.
The club meets every Tuesday evening at Hafan Deg Retirement Home at 6.45pm.
Lessons given, contact Keith on 01974 428811. Croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]