THE latest community news from Llanafan

Merched y Wawr

AR gyfer cyfarfod mis Hydref bu aelodau yn ymweld â‘r Orsaf Dân yn Aberystwyth.

Daeth criw niferus at ei gilydd ac fe’n croesawyd i’r orsaf gan ddau o’r swyddogion tân, Colin a Simon, a esboniodd inni natur a threfn y gwaith.

Dechreuodd y daith yn yr ystafell wisgo, lle cafwyd cyfle i wisgo’r dillad arbennig.

Wedyn ymlaen â ni i weld y cerbydau a chael esboniad manwl ar yr holl offer.

Fe’n sobrwyd wrth sylweddoli mor galed ac mor heriol oedd y gwaith a wyneba’r swyddogion bob dydd.

Pwysleisiwyd mor bwysig yw cael hyfforddiant cyson a manwl yn ogystal â’r offer arbenigol sydd ei angen.

Diolchodd ein his-lywydd, Nia Hamer, yn ddiffuant iawn i’r swyddogion cyn i’r aelodau groesi’r ffordd i dafarn y Ffynnon i fwynhau pryd o fwyd a thipyn o gymdeithasu cyn troi am adref.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Festri Capel Afan nos Lun, 13 Tachwedd, yng nghwmni’r milfeddyg Phil Thomas.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]