THE latest community news from Llanarth

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Llanarth ar benwythnos 5 a 6 Hydref eleni.

Bydd cystadlaethau plant Ysgol Llanarth ar y prynhawn Gwener fel yr arfer.

Yna ar y dydd Sadwrn, bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp gyda chystadlaethau llwyfan i’r rhai sydd o dan 16 oed.

Cedwir y cystadlaethau gwaith cartref yr un peth ag arfer.

Er mwyn denu cynulleidfa gref a rhoi cyfle i bawb ymuno yn un o brif ddigwyddiadau blynyddol pentre’ Llanarth, penderfynwyd ail-strwythuro diwedd y ‘steddfod, ac eleni byddwn yn gorffen y dydd gyda chystadlaethau ysgafnach, gyda thri tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – tîm Llanarth (h.y. pawb sydd â chyfeirad post Llanarth), tîm Mydroilyn a Dihewyd (h.y. pawb sydd â chyfeiriad post Mydroilyn a Dihewyd) a thîm “Gweddill y Byd” (ie - pawb arall)! Felly, mae croeso i bawb gymryd rhan!

Bydd yna dri chapten yn cael y dasg o grynhoi’r timoedd at ei gilydd yn ystod wythnos y steddfod, pan fyddant yn derbyn rhaglen y cystadlaethau hwyliog.

Mae testunau gwaith cartef eisoes ar gael – limrig: ‘Ma pobol Llanarth nawr yn joio’ a brysneges ar y llythyren ‘C’.

Bydd Ifan Jones Evans yn arwain y noson ac edrychwn ymlaen at benwythnos llwyddiannus a llond hwyl, gyda neuadd llawn dop.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]