THE latest community news from Llanddeiniol

Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog

DATHLIAD o’r diwylliant gwerin cynhenid gafwyd gan yr aelodau yn Festri Elim ar nos Fawrth, 20 Mawrth.

Y stori tu ôl i’r llun oedd y canllaw a osodwyd er mwyn ysgogi’r aelodau i fwrw ati.

O ganlyniad i’r twrio, y pwyso a’r mesur gwelwyd lluniau amrywiol a chafwyd hanesion hynod o ddiddorol.

Cyfoethogwyd y cyflwyniadau gan adwaith brwd y cyd-aelodau ac amlygwyd elfen amhrisiadwy y gyfeillach unwaith eto.

Un o drysorau noson o’r fath yw’r tafodieithoedd a glywir oddi mewn i furiau’r festri.

Datgelodd Beti Wyn Emanuel dirlun o ardal Llanberis a chanolbwyntiodd ar stori un o’r deiliad tir dylanwadol ym mro ei mebyd.

Yr ymdrech i ganfod llun o’i dadcu oedd y sail ar gyfer sylwadau difyr Ieuan Parry.

Tywysodd yr aelodau yn ôl i gyfnod y Great Western Railway a rhoddodd fraslun o fywyd yn ardal Llanilar trwy gyfrwng atgofion ac anecdotau.

Ni ellir gorbwysleisio swyddogaeth y traddodiad llafar wrth feddwl am gofnodi hanes lleol.

Wedi’r storom ar y prom yn Aberystwyth hawliodd sylw Brinley Davies a’i gamera.

Tynnodd nifer o luniau a gofynnodd i’w gyd-aelodau graffu ar un ohonynt.

Yn y llun anghyffredin gwelir dyn ifanc yn eistedd ar fainc a’r graean o’i gwmpas.

Awgrymwyd penawdau fel bodlonrwydd, distawrwydd, hapusrwydd a llonyddwch. Yn sicr, yr oedd ei osgo yn wrthgyferbyniad llwyr i ryferthwy’r storm.

Llun o faes pebyll arweiniodd Trefor Jones at y gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978.

Cyfeiriwyd at berfformiad Syr Geraint Evans ar lwyfan yr wyl wedi’r newydd nad oedd neb yn deilwng o’r gadair.

Un o’r atyniadau cerddorol yn y brifwyl eleni yn y brifddinas yw cyflwyniad o Teilwng yw’r Oen.

Cadeirydd y gymdeithas, y Parch Nicholas Bee, lywiodd y noson a diolchodd i’r aelodau cyn i’r llen gau ar dymor cofiadwy o fwrlwm diwylliannol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]