THE latest community news from Llandre

Banc Bro

Mae’r ardal wedi gwthio’r cwch i’r d?r ar gyfer codi arian i gefnogi cronfa leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron 2020. Daeth nifer dda ynghyd i Fethlehem ar 6 Tachwedd i drafod sut i fynd ati i godi arian i gyrraedd y targed ariannol o £5,000.

Un ffordd hwylus o godi arian yw drwy gynllun 20/20 yr Eisteddfod Genedlaethol. Dosbarthwyd ffurflenni cyfrannu ac mae croeso i bawb yn yr ardal i roi yn ôl eu gallu. Naill ai gellir cyfrannu swm penodol neu gallwch roi daliad misol o ddyweder £20, £10 neu £5 yn fisol dros gyfnod o 20 mis. Byddai cyfraniad o £20 ar ôl 20 mis yn £400, ac wedyn yn codi i £500, yn sgil ad-daliad y cynllun rhodd Cymorth.

Gwirfoddolodd nifer o aelodau’r Banc Bro i rannu ffurflenni cyfrannu a’u casglu yn ôl. Dymuniad y cyfarfod hefyd oedd eu bod yn trefnu gweithgareddau cymunedol fyddai yn hybu ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod ac yn cefnogi’r Gronfa.

Penderfynwyd lansio’r apêl leol yn y Noson Nadoligaidd sydd i’w chynnal ym Methlehem ar y dyddiad arferol, nos Wener ola’r mis sef 30 Tachwedd.

Bydd hon yn noson gymdeithasol i bawb yn y pentref ac yn cynnwys stondinau, raffl, diodydd tymhorol ac adloniant a chyhoeddir enwau enillwyr gwobrau mawr Nadolig y Clwb 50.

Daw gwybodaeth am unrhyw weithgareddau pellach maes o law.

Y Banc Bro sy’n cymryd y cyfrifoldeb am godi’r arian yn lleol. Y swyddogion yw Wynne Melville Jones, cadeirydd; Meinir Edwards, is-gadeirydd; Gwenda James, ysgrifenyddes; Richard Evans, trysorydd.

Gofynnir yn garedig am gefnogaeth pawb yn y fro i’r apêl er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cyflwyno swm anrhydeddus i’r Eisteddfod. Dyw cyfle fel hyn ddim yn dod yn aml. Yn 1992 y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf yng Ngheredigion.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]