THE latest community news from Llandre
Nadolig y fro
Cynhelir noson Nadoligaidd pum seren eleni i roi cychwyn ar ddathliadau Nadolig y fro ym Methlehem, Llandre ar nos Wener, 24 Tachwedd am 6yh.
Bydd diodydd tymhorol, stondinau bwyd, poteli a llyfrau a threfnir raffl a chyhoeddir enwau enillwyr gwobrau mawr y Clwb 50.
Darperir adloniant cerddorol gan Barti Camddwr a chyflwynir elw’r noson i Gronfa Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Bydd pris mynediad yn £3, a’r plant am ddim.
Gofynnir am gymorth gyda’r trefniadau a chyfraniadau ac am gefnogaeth ar y noson hon sy’n un o nosweithiau hwyliog y fro yn flynyddol.
Trefnir y noson gan Fanc Bro Llanfihangel Genau’r Glyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.