THE latest community news from Llandysul
Church Services
SUNDAY, 1 July – Llandysul: 8am, Communion; 11am, Family Service.
Llangeler: 9.45am, English Morning Prayer; Capel Mair: 2yp, Cymun Bendigaid.
Carnival
A SUCCESSFUL It’s a Knockout event was held at the Paddlers on Saturday, 16 June, and it was nice to see so many participating, winning prizes and having fun.
Thanks to all.
Church and Hall
THE Strawberries and Cream Evening will be held at Tresi Aur on Friday, 6 July, at 7pm.
Please support this special annual event.
MyW
CROESAWYD yr aelodau i’r Pwerdy ar nos Iau, 8 Chwefror, gan ein llywydd, Val Davies.
Ein gwr gwadd am y noson oedd Dr John Davies, Llandysul.
Fe’i ganwyd yn Lerpwl a magwyd ef yng Nghwm Rhymni a Chaerdydd.
Testun ei sgwrs oedd ‘Cysylltiad Llandysul gyda Owain Glyndwr’, sef hanes mam Owain Glyndwr, Elen, ferch Tomos ap Llywelyn o’r Deheubarth.
Diolchwyd gan Yvonne a merched y te oedd Ann, Hazel a Beth.
Rhoddwyd y raffl gan Petra a’r enillydd oedd Mary Evans.
Ar nos Wener, 9 Mawrth, croesawodd Val ein gwraig wadd am y noson, sef Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag aelodau’r gangen a’u gwyr i’n cinio blynyddol yng Ngwesty’r Porth.
Daw Elin yn wreiddiol o bentre Llanwnnen ac mae’n aelod o’r Cynulliad ers 1999.
Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn ganddi am ei gwaith fel Aelod o’r Cynulliad dros Geredigion, hefyd am ei chyfrifoldebau fel llywydd.
Rhoddwyd y diolchiadau gan Val.
Rhoddwyd y raffl gan y swyddogion a’r enillwyr oedd Jean, Sheila ac Yvonne.
Cafwyd noson ddiddorol iawn yng nghwmni’r Cyng Maldwyn Lewis ar nos Iau, 12 Ebrill.
Estynwyd croeso iddo ef a’i wraig, y Parch Carys Ann gan ein llywydd Val.
Mae Maldwyn yn enedigol o Penrhiwpâl ac mae’n ymgymerwr angladdau.
Cafwyd hanes a sleidiau am ei filltir sgwâr, sef pentrefi ac ardal Coedybryn, Maesllyn a Throedyraur, yn cynnwys hanes Plas Bronwydd, Gernos Lodge ac Eglwys Llangynllo.
Diolchwyd i Maldwyn gan Geralyn a merched y te oedd Joan, Petra ac Olive.
Rhoddwyd y raffl gan Mary Williams a’r enillydd oedd Olive.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.