THE latest community news from Llandysul
St James, Rhos
CAFWYD gwasanaeth diolchgarwch bendithiol iawn yn yr eglwys yn ddiweddar a da oedd gweld cymaint wedi dod eleni eto i ddiolch am y cynhaeaf.
Priodas
PRIODWYD Dafydd ac Alison yng Ngwesty’r Brenin Arthur ym Mro G?yr ar ddydd Sadwrn, 18 Awst. Byddant ym ymgartrefu yn Abertawe.
Marie Curie
YN gynharach eleni trefnodd Wyn Thomas, Erwlon a’i deulu a’i ffrindiau daith tractor noddedig ar hyd lonydd gwledig yr ardal, gan gorffen yng Nghlwb Golff Cwmrhydneuadd, ger Llangrannog.
O ganlyniad i’r daith, codwyd £1,200 sydd wedi’i drosglwyddo i elusen Marie Curie ac mae Wyn yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd y digwyddiad.
A sponsored tractor run was recently organised by Wyn Thomas, his family and friends, which raised £1,200 for the charity.
Wyn is extremely grateful to everyone who supported this event
Owain Glynd?r
CAFWYD diwrnod diddorol a hyfryd yn Neuadd yr Eglwys wrth i Gered adrodd stori Owain Glynd?r, sef Tywysog Olaf Cymru, gyda’i fam a chysylltiad â Llandysul. Da oedd gweld pawb yn mwynhau’r stori.
Clwb Croeso
AIL-gychwynnodd ein cyfarfodydd ar ddydd Mawrth, 11 Medi, yng Ngwesty’r Porth, ar ôl toriad dros yr haf. Mary Williams oedd yn y gadair a chroeshawodd bawb yn gynnes i’r cyfarfod.
Yn dilyn y materion busnes, croesawyd ein siaradwraig wadd am y p’nawn, sef Mererid Jones o Gyngor Sir Ceredigion. Cawsom araith addysgiadol ar ailgylchu a gwybod beth oedd yn digwydd wedi i’r bagiau gael eu casglu. Diolchwyd iddi gan Keith Evans a chafwyd cwpanaid o de i ddilyn; roedd 30 o aelodau yn bresennol.
Bydd ein cyfarfod nesaf ar ddydd Mawrth, 9 Hydref am 2yp yng Ngwesty’r Porth.
Oedfa Ddiolchgarwch fydd gyda ni a bydd y casglad yn mynd tuag at HUTS - elusen i helpu oedolion â phroblemau meddyliol.
Ar y radio
BRAF oedd clywed fod Mair Davies a Rhian Jones wedi cael eu gwobrwyo gyda rhodd ‘Diolch yn fawr’ Radio Cymru ar brynhawn Iau, 13 Medi.
Roedd Ifan Jones Evans wedi dod i Eglwys Tregroes yn yr haf i’w anrhydeddu a da oedd cael y cyfle i ddiolch iddynt.
100 Club
THE Llandysul Show 100 Club winners for September were: Gareth Davies, Maesglas; John Mark, Cwrt; M Davies, Ffynnon Dudur; and David Brooke, Dancoed.
Church Services
SUNDAY, 30 September – Llandysul: 8am, Communion.
Capel Mair: 10.30am, united Communion service.
Bangor Teifi: 2pm, united bilingual Harvest Thanksgiving service.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.