THE latest community news from Llandysul

Merched y Wawr

OHERWYDD y difrod yn y Pwerdy yn sgíl llifogydd Storm Callum bu rhaid dod o hyd i gartef newydd ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, a diolch i Eglwys St Tysul am gael defnyddio neuadd yr eglwys lle roedd croeso yn cael ei estyn i’r aelodau gan Megan y llywydd.

Croesawyd Carys Jones o Llansteffan i’n plith, gwyneb cyfarwydd ar Prynhawn Da S4C.

Eglurodd i ni fel yr oedd yn mynd ati i gynllunio setiau a dillad ar gyfer rhaglenni teledu.

Rhoddwyd y diolchiadau am noswaith diddorol gan Nesta. Rhiannon oedd enillydd y raffl, rhoddedig gan Wenna, a Valerie, Mary a Petra oedd yng ngofal y te.

Yng nghyfarfod mis Rhagfyr, Yvonne yr is-lywydd oedd yn llywyddu yn absenoldeb Megan.

Cawsom noswaith o ffilmiau yng nghwmni Ivor a Michelle Thomas.

Gwyliasom ddwy ffilm fer, y cyntaf yn dangos dyffryn Clettwr ar ei orau a hanes hen gymeriadau o’r ardal, a’r ail ffilm yn dangos fel y mae bywyd y ferch wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Gwnaed y diolchiadau am noswaith hwyliog gan Valerie.

Roedd y raffl yn rhoddedig gan Beth a’r enillydd oedd Ann Jones. Paratowyd mins peis a gwin poeth gan Megan, Geralyn a Sheila, gan ddymuno Nadolig Llawen i’n gilydd a throi tuag adref.

Noder bod cyfarfod nesaf ar nos Wener, 11 Ionawr, yng Ngwesty’r Porth, pryd y bydd noswaith cwis wedi ei drefnu ar gyfer cymdeithasau a busnesu Llandysul.

Show

THE annual dinner will be held on Saturday, 19 January, at the Porth Hotel at 7.30pm. Contact Beth on 07901 716957 for details.

Church services

DYDD Sadwrn, 12 Ionawr: Eglwys Llandysul, Calan Hen, 10yb.

Sunday, 13 January: Llandysul, 8am, Communion; 11am, Boreol Weddi.

Bore coffi

CYNHALIWYD bore coffi’r eglwys ar Ddydd Calan a da oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd am baned a chlonc.

Diolch i bawb am bob cymorth a chyfraniad.

Merched Cylch Clettwr

THE members met on New Year’s Day at Tynewydd, Gorrig, for a chat and games.

Thanks were given to all who attended the meeting.

Calon Tysul

BINGO was held at the Half Moon on New Year’s Eve in aid of Calon Tysul.

Thanks were given to all who supported.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]