THE latest community news from Landysul
Cymdeithas Efeillio
CINIO Santes Dwynwen nos Wener, 24 Ionawr yn y Porth am 7.30yh (enwau i Wenna Bevan Jones).
Y gwestai fydd Owain Shires.
Community well-being
THE event will be held at the Tysul Hall on Wednesday, 22 January from 10.30am until 1.30pm.
Well-being digital and financial support for all.
Llandysul Show
THE annual dinner will be at the Porth Hotel on Saturday, 1 February at 7.30pm, with guest speaker Gareth Davies, Tir Dewi.
The AGM will be held on Tuesday, 11 February at the Porth Hotel at 7.30pm.
Carnival
THE AGM will be at the Half Moon on Tuesday, 4 February at 7.30pm.
Calan Hen
UNWAITH eto cafwyd g?yl arbennig yn Eglwys Llandysul a da oedd gweld yr eglwys a’r ysgolion Sul yn cymryd rhan, gyda mwy o ysgolion Sul eleni.
Braf oedd gweld fod yr arferiad yn dal i fynd yn Nyffryn Teifi ers 1833 a diolch am bob cyfraniad a chefnogaeth eleni eto.
Cymdeithas Hanes
LOCAL History Society AGM (10 minutes maximum) followed by a Presentation of New Society Acquisitions on Wednesday, 29 January at 7.15pm at the Tysul Hall.
Subscriptions for 2020: £13pa (£11 concessions), non-members will be asked to make a donation of £3, everyone welcome, www.hanesllandysulhistory. co.uk
Enquiries: Lesley Parker: 07989 127396, Jane Kerr 01559 363201, [email protected]
Sesiwn Werin y Felin
TAFARN Half Moon, Pont-Tyweli - dewch ag offerynnau eich hun, rhai ar gael i fenthyg e.e. Iwcs, Bodhran, Cajon, Claves a.y.y.b.
Folk Night - from 31 January to 28 February, 7pm at Half Moon pub, Pont-Tyweli - bring your own instruments, some available to borrow e.g Ukulele, Bodhran, Cajon, Claves etc.
Merched y Wawr
NÔL â ni i’n cartref dros dro ar gyfer cyfarfod Tachwedd, ble y croesawyd ni gan Megan, cyn cyd-ganu cân y mudiad.
Emyr Jones o Gastellnewydd Emlyn oedd ein gwestai, ymunodd Emyr â’r gwasanaeth tân yn y 90au a bellach mae yn swyddog tân ar orsafoedd Ceredigion.
Ymwelodd Emyr â ni i ddangos beth i’w wneud os byddai rhywun angen cymorth cyntaf a hefyd rhoi hyfforddiant ar ddefnyddio diffibriliwr.
Roedd y te yng ngofal Mary Williams, Bet a Marian.
Rhoddwyd y raffl gan Joan, a Wenna fu’n lwcus.
Cyfarfod â naws Nadoligaidd cawsom ym mis Rhagfyr pan treuliasom orig ddifyr yng nghwmni Dr Rhiannon Ifans a Trefor Pugh.
Cawsom ganddynt hanes arferiad y canu Plygain.
Diolchwyd iddynt am noswaith hyfryd iawn gan Valerie.
Roedd Megan, Geralyn a Sheila wedi paratoi mins peis a gwin poeth ar ein cyfer.
Mair enillodd y raffl, rhoddedig gan Eirian.
Delio â’r hinsawdd
MAE adroddiadau am argyfwng yr hinsawdd yn cynyddu o wythnos i wythnos ac mae mwy a mwy o bobl eisiau deall beth sy’n digwydd a beth i’w wneud amdano.
Wythnos diwethaf, cynhaliwyd noson yn Neuadd Goffa Pontgarreg pan ddaeth rhyw 30 o bobl leol i wrando ar gyflwyniad am yr argyfwng.
Ar ôl clywed am y wyddoniaeth y tu ôl i broblemau’r hinsawdd ac ecoleg, roedd cyfle i edrych ar wahanol ffyrdd o ymateb er mwyn gwella’r sefyllfa: dewisiadau unigol (ailgylchu, defnyddio’r bws, ayyb), prosiectau lleol, gweithredu ar lefel genedlaethol a chydwladol, a sut mae Gwrthryfel Difodiant yn ceisio gwthio llywodraethau i ymateb yn ddigonol i’r argyfwng.
Bu amser i bawb drafod dros baned ar y diwedd.
Gobeithir cynnal noson debyg yn Aberteifi ddiwedd mis Chwefror, ac os hoffech drefnu un yn Gymraeg neu yn Saesneg yn eich ardal, cysylltwch ag [email protected]
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.