THE latest community news from Llandysul
Church Services
SUNDAY, 11 February - Llandysul: 8am, Communion; 11am, Boreol Weddi.
Pontsian: 2pm.
Bangor Teifi: 3.30pm, Gwyl Aberbanc.
Calan Hen
ELENI eto eleni cynhaliwyd gwyl arbennig i ddathlu Calan Hen yn eglwys y plwyf a da oedd gweld 11 o eglwysi yn cymryd rhan yn y dathlu.
Hyfryd yw gweld yr hen draddodiad yn parhau a hynny ers 1833 ac edrychwn ymlaen at ddathlu’r 200fed.
Braf hefyd oedd gweld yr eglwys ar y teledu yn ymarfer ar gyfer Calan Hen ar y rhaglen ‘Heno’, gan ddangos pa mor bwysig yw’r dathlu unigryw yma i ardal dyffryn Teifi.
Cymdeithas Efeillio
BU’R cinio blynyddol y Gymdeithas Efeillio Llandysul a’r Fro, sef Cinio Santes Dwynwen ar nos Wener, 26 Ionawr yng Ngwesty’r Porth.
Hyfryd oedd gweld tua 50 o bobl wedi dod i wrando ar Ben Lake AS Ceredigion.
Croesawyd pawb gan William Bevan Jones, cadeirydd y gymdeithas, cyn i’r Parch Guto ap Gwynfor ddweud y gras cyn y bwyd.
Roedd yn agoriad llygad i glywed am brofiadau diddorol Ben Lake fel aelod seneddol newydd ac ifanc, yn y senedd dros Plaid Cymru.
Diolchwyd i bawb gan Philip Ainsworth, is-lywydd y gymdeithas, am noson gymdeithasol ac o fwynhad.
Ysgrifenyddes y gymdeithas yw Wendy Griffiths, Pencader; y drysoryddes yw Eileen Curry, Pren-gwyn; llywydd anrhydeddus yw Wenna Bevan-Jones a’r diweddar Dr Huw Bevan-Jones oedd cadeirydd cyntaf y gymdeithas.
Ym mis Gorffennaf eleni, fe fydd y gymdeithas yn dathlu 30 o flynyddoedd o gyfeillgarwch rhwng Llandysul a’r Fro â Plogoneg a’r Fro yn Llydaw, sydd ddim yn bell o Quimper a Douarnanez.
Dyma’r englyn a ysgrifennwyd gan y diweddar Brifardd Dic Jones, i ddathlu seremoni swyddogol y gefeillio ar 16 Gorffennaf 1988 yn Neuadd Tysul, Llandysul.
Bu seremoni swyddogol y gefeillio yn Plogoneg ym 1989:
Wele gydio ein bröydd - â dolen
Gwaedoliaeth o’r newydd;
Hyd fyth yn ein cadw fydd
Yn un galon â’n gilydd.
Bore Coffi
FORE Mawrth, 13 Chwefror, yn y neuadd o 10yb tan 11yb, pancws ar gyfer dydd Mawrth Ynyd.
Merched Cylch Clettwr
THE annual lunch will be at Ffostrasol on 21 February at 12.30pm.
Concert
CAWL and entertainment at the Porth Hotel on Friday, 23 February to raise money for the local nurses.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.