THE latest community news from Llanfarian

Merched yr Wawr

AR ddiwrnod braf o haf, ar 27 Mehefin, aeth aelodau Merched y Wawr Llanfarian a’r Cylch a Chymdeithas yr Hebog ar eu trip dirgel blynyddol.

Tua’r de eleni nes cyrraedd Gwesty Glanyrafon, Talgarreg lle ‘roedd pryd blasus iawn yn ein disgwyl.

Yna ymweld ag amgueddfa Gerynant gerllaw, sef casgliad Peter a Pam Newill o’r hen beiriannau fferm a nwyddau a oedd yn cael eu defnyddio degawdau yn ôl.

Yna ar y bws ar hyd lonydd cul Ceredigion nes cyrraedd Capel Neuaddlwyd lle ymfudodd dau genhadwr i Fadagasgar 200 mlynedd yn ôl.

Cafwyd anerchiad cynhwysfawr gan Marina James o’r holl hanes a gweld y plac ‘roedd yr ymwelwyr o Fadagasgar wedi cyflwyno i’r capel yn ystod y dathliadau 200 mlynedd mis Mehefin eleni.

Braf oedd cael paned a hufen ia yn Aberaeron cyn symud ymlaen i Gwesty Gwbert yn Aberteifi am swper blasus.

Diolchodd Beti Wyn i Joyce a Dora am drefnu trip arderchog ac i gyrrwr y bws am ddiwrnod pleserus iawn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]