THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

Ganol Gaeaf noethlwm ond achos i ddathlu oedd gan gangen Merched y Wawr. Dathlu pen-blwydd y gangen yn 50 oed a phle yn well i wneud hynny na gwesty moethus y Conrah ar garreg y drws?

Mair Griffiths, y llywydd, groesawodd yr aelodau at y bwrdd swper a gofyn bendith Duw.

Wedi cael eu gwala a’u gweddill o’r pryd blasus, pleser i Mair oedd croesawu’r wraig wadd, sef Mererid James .

Bu Mererid ynghlwm wrth Ferched y Wawr yn genedlaethol o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi dal pob swydd o bwys yn arwain y mudiad.

Yn ystod ei bywyd bu i Mererid ymgartrefu mewn nifer o wahanol ardaloedd a phob tro byddai yn ymuno â changen leol o’r mudiad. Dyna’r ffordd orau i wneud ffrindiau newydd a pherthyn i’r ardal .

Erbyn hyn Aberystwyth yw ei chartre ac mae’n hapus yn y gangen leol yno.

Cewch fanteision lu wrth ymaelodi a chyfle i ddiogelu, hyrwyddo ac ymladd dros le a hawliau’r Gymraeg.

Wedi olrhain hanes a th?f y mudiad dros hanner canrif anogodd yr aelodau i beidio llaesu dwylo ond i gadw eu hyder a’u brwdfrydedd yn fyw a dymunodd hir oes i gangen Llanfarian.

Roedd cacen y dathlu yn aros i’w thorri a’i rhannu. Nesta, Mary a Beti Wyn gafodd y fraint gan mai nhw’i tair sylfaenodd y gangen yn Llanfarian.

Cyfle i Nesta i fwrw golwg dros ysgwydd y blynyddoedd ac i ddiolch am gwmnïaeth gynnes, glos ymhlith yr aelodau .

Ar y bwrdd roedd basged orlawn o ddanteithion Cymreig, rhodd garedig oddi wrth Marian oedd yn ychwanegu at y dathliad. Aeth y rhif lwcus am y fasged i Luned Parry. Bydd yn bleser mae’n siwr iddi gael eu rhannu gyda’r teulu.

O dan arweiniad hwyliog Mair daeth dathliad arbennig i ben a’r aelodau yn wynebu’r dyfodol yn hyderus.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]