THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
DECHRE’R gaea a’r gangen yn edrych ymlaen yn eiddgar at raglen lawn o dan arweiniad tîm o swyddogion newydd.
Tasg bleserus Nesta Edwards, ein llywydd, oedd llongyfarch yr aelodau ar eu llwyddiant yn y sioe leol a Cath Evans, ein trysorydd fu’n cofrestri a derbyn ein tâl aelodaeth.
Wedi’r croeso a’r cofion at aelodau absennol, canwyd cân y mudiad.
Gwahoddwyd ddwy aelod o’n plith i gynnal y noson: Cynthia yn hanu o Sir Benfro, yn dwyn atgofion am ei hamser yn dysgu nyrsio yn Ysbyty Aberteifi; a Blodwen sy’n hanu o Langwyryfon fu’n gweithio gyda’r cyfryngau yng Nghaerdydd, ond erbyn hyn yn hapus i fod nôl yn ei milltir sgwâr.
Roedd sgyrsiau difyr y ddwy yn cymell trafodaeth bellach yn ein plith.
Pleser i Mary oedd cael estyn diolch am y bwrdd swper llawn danteithion ac i’r ddwy siaradwraig wadd. Cyn troi am y drws tynnwyd tocynnau lwcus y raffl ac estyn gwobr fach hyfryd i Valmair, Blod a Cynthia.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]