THE latest community news from Llangwyrfon
Cymdeithas Tabor
CAFODD aelodau Cymdeithas Tabor eu cyflwyno i fyd ailgylchu ar 30 Hydref gan ein gwraig wadd Mererid Jones.
Daeth yn glir paham yr oedd angen y gwasanaeth, o ystyried cynifer o fathau o ddefnyddiau sy’n cael eu lapio o gwmpas y nwyddau a brynwn, a’r gwaith sydd ei angen i’w dadelfennu.
Roedd yn syndod i ddeall faint o wahanol fathau o blastig sydd ar gael, ac yn syndod i rai i ddeall na ellid ailgylchu pacedi creision. Er mwyn medru defnyddio technoleg gyfoes i buro ac ynysu’r plastig, metel, papur ac ati, a’u trawsnewid i ffurf y gellid ei ailddefnyddio, mae angen bwydo miloedd o dunelli o wastraff i grombil y gwahanol ganolfannau, rhai yn agos a rhai yn bell iawn, sy’n cyflawni’r gwaith.
Mae’n debyg bod Ceredigion yn uchel ar restr y siroedd sy’n ailgylchu gwastraff, ond gan fod y disgwyliadau yn cael eu codi yn flynyddol, bydd angen gwneud yn well eto’r flwyddyn nesaf.
Cafwyd atebion clir i’r cwestiynau a godwyd o’r llawr a chael gwybod am y cynlluniau sydd yn yr arfaeth i wella’r gwasanaeth ac ehangu cylch y deunydd a ailgylchir.
Diolchodd Carol Tandy i Mererid ar ran y gymdeithas am noson hwylus a difyr.
Nos Lun, 6 Tachwedd aeth criw ohonom i ymweld â’r Orsaf Dân yn Trefechan. Cawsom ein tywys yn gyntaf i wylio cyflwyniad trwy sleidiau ar Ddiogelwch yn y Cartref a oedd yn dangos i ni sut i osgoi tân yn ein cartrefi trwy fod yn ofalus gyda’r elfennau peryglus.
Yna aethom i weld y dillad arbennig a wisgir gan ymladdwyr tân cyn gweld y ddwy injan dân a’r holl offer sy’n cael eu cario arnynt. Maent yn barod ar gyfer unrhyw argyfwng megis tân mewn ty neu ddamwain car.
Tra’r oeddem yn yr orsaf, cafodd y criw eu galw allan, ac o fewn munudau roeddent wedi cyrraedd o bobman ac un injan ar ei ffordd allan.
Aethom wedyn ar draws y ffordd i’r ‘Fountain’ lle mwynhaodd pawb bryd hyfryd o fwyd.
Nos Fercher, 8 Tachwedd ymunodd Cymdeithas Tabor Llangwyryfon ag aelodau Cymdeithas y Paith Capel Seion ar fordaith bell o unigeddau’r Mynydd Bach i Ohio yn Unol Daleithiau America.
Capten y llong oedd Arwel Jones o Bennant yn wreiddiol, a thrwy gyfrwng yr holl fanylion oedd ganddo ar flaenau ei fysedd am y teuluoedd a’u ffermydd yn yr ardal, natur y fordaith a’r hyn a ddigwyddodd ar ôl treulio wythnosau lawer yn teithio ar fôr a thir, fe aeth â ni – yn ein seddau cyfforddus – ar antur enbyd i ben draw’r byd gan adael pob un yn rhyfeddu ac yn edmygu dewrder ac unplygrwydd y rhai a fentrodd mor bell i wlad ddieithr i ddechrau bywyd newydd.
Bu tîm o wirfoddolwyr yng Nghilcennin yn dyfal gasglu tystiolaeth o Ohio ac yn trefnu dathliadau uchelgeisiol y flwyddyn nesaf adeg daucanmlwyddiant yr antur.
Bwriedir cyhoeddi cyfrol goffa hefyd yn cofnodi straeon y teuluoedd a’u hanes wedi cyrraedd Gwlad yr Addewid.
Yr oedd pob un yn ddiolchgar iawn am y lluniaeth a ddarparwyd gan wragedd Capel Seion ar ôl taith mor anturus.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.