YM mhennod cyntaf Y Cyfweliad ar S4C, mae Dafydd Iwan dan deimlad wedi i un o'r Holwyr ofyn iddo sut y byddai o'n hoffi gael ei gofio, gan ddweud "fel rhywun drïodd wneud gwahaniaeth er gwell" cyn cael ei sicrhau ei fod o wedi gwneud hynny'n barod.
Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) yw Y Cyfweliad – lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.
Y canwr a’r ymgyrchydd Dafydd Iwan yw'r cyntaf yn y gyfres hon fydd i'w gweld ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o nos Wener 26 Rhagfyr am 20.25.
Ymysg y cwestiynau amrywiol, mae un yn dod gan un o'i ffans mwyaf, Michael Aaron Hughes, sy'n gofyn sut y byddai o'n hoffi cael ei gofio.
Dywedodd Dafydd Iwan: "Fel rhywun drïodd neud gwahaniaeth er gwell...Mae na lot o bethau dwi'n teimlo gallwn ni fod wedi neud yn well ond gobeithio mod i wedi gwneud gwahaniaeth yn y byd."
Mae Michael yn ymateb heb oedi: "Wel, alla'i eich sicrhau chi eich bod chi wedi. Anhygoel, y pethau 'da chi wedi gwneud.
"Rhowch glap iddo fo. Gwych, da iawn - mi ydych chi wedi gwneud yn wych."
Mae'r sgwrs yn annog cymeradwyaeth yn y stiwdio - a Dafydd Iwan yn amlwg wedi'i gyffwrdd gan y deyrnged galonogol.
Mae’r bennod hefyd yn cyfeirio at adfywiad anhygoel un o’i ganeuon enwocaf, Yma o Hyd. Fe gyrhaeddodd y gân frig siartiau iTunes ar ôl dod yn anthem i dîm pêl-droed Cymru a’r Wal Goch.
Yn y rhaglen, mae’n cyfeirio at berfformio'r gân gyda’r ffans a’r tîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ar ôl i Rhodri ofyn: “Sut ydych chi'n teimlo o weld gymaint o gefnogwyr pêl-droed yn canu'n Gymraeg yn gemau pêl-droed Cymru rŵan?”
Atebodd Dafydd Iwan: "Mae'n debyg mai dyna oedd yr uchafbwynt i fi. Wedi canu Yma o Hyd ar hyd y blynyddoedd yna canu hi yn stadiwm Caerdydd yn 2022 cyn gêm Wcráin a cyn gêm Awstria a pawb yn ymuno, oedd o'n deimlad braf.
“A llawer ohonyn nhw ddim yn siarad Cymraeg fatha chi ond o’dd o'n deimlad braf bod pawb efo'i gilydd, yn yr un ysbryd, dros Gymru!"
Mae’r bennod yn gorffen gyda phawb yn cyd-ganu Yma o Hyd yn annisgwyl gyda'r criw – diweddglo perffaith i gyfweliad teimladwy a llawn emosiwn.
Bydd Y Cyfweliad - Dafydd Iwan ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o nos Wener 26 Rhagfyr am 20.25. Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae Mike Phillips, Bronwen Lewis ac Elin Fflur.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.