THE latest community news from Llangwyrfon

Cymdeithas Tabor

AR nos Lun, 20 Tachwedd, cynhaliwyd Seiat Holi gan Gymdeithas Tabor yng nghwmni Ellen ap Gwynn, Sara Jenkins, Wyn Evans a Richard Tudor, sef aelodau’r panel a holwyd gan y holwraig brofiadol Eirwen Williams.

Dadlennwyd profiadau cynnar y panel i ddechrau cyn cael atebion o sylwedd ar faterion ffermio a Brexit gan rai yn gweithio’n ddyddiol yn y maes.

Cafwyd unfrydedd (ar ran y dynion o leiaf) ar Tony Pulis fel rheolwr nesaf tîm pêl-droed Cymru, ond atebion dipyn mwy amrywiol ar y cwestiwn o ba datw fyddai dewis y panel gan gynnwys un awgrym ysbrydoledig ‘made-in-China’ dan y sawdl.

Diddanwyd y gymdeithas a’u haddysgwyd gan siaradwyr huawdl, hyderus â phrofiad eang mewn gwahanol feysydd.

Enillydd y raffl, a gyfrannwyd gan Judith Jones, oedd y Parch Nicholas Bee a thalwyd y diolchiadau gan William Lloyd. Yn y cyfarfod nesaf edrychir ymlaen at gystadlu yn erbyn Cymdeithas yr Hebog a Chymdeithas Tregaron mewn cwis yng ngofal yr archgwisfeistr ei hun Ifor Morgan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]