THE latest community news from Llangwyrfon

Cymdeithas Tabor

NOS Lun, 4 Rhagfyr croesawyd aelodau Cymdeithas yr Hebog a Chymdeithas Bwlchgwynt, Tregaron i ymuno gyda ni mewn cwis a baratowyd gan arch-gwisfeistr Llangwyryfon sef Ifor Morgan.

Braf oedd cael cynulliad digonol i greu chwech o dimau i ryfeddu at yr amrywiaeth o gwestiynau a daflwyd atyn nhw!

Llongyfarchwyd dau dîm Cymdeithas yr Hebog am ddod yn gydradd gyntaf.

Cafwyd noson hwyliog, ac wrth rannu’r bwyd ar y diwedd cafwyd cyfle arbennig i bob un gael yr hanes diweddaraf am gyfeillion yn y gwahanol ardaloedd, ac roedd yn amlwg bod pawb yn mwynhau’r gyfeillach.

Yr oedd hefyd yn gyfle i longyfarch Ieuan Parry, brodor o Langwyryfon, yn awr yn byw ym Mlaenplwyf, oedd yn dathlu ei ben blwydd y diwrnod hwnnw.

Ar 18 Rhagfyr aeth criw gwydn, wedi gwisgo’n gynnes a thymhorol i ganu carolau ar ochr ogleddol y pentre er mwyn codi arian at achos da. Eleni fe fydd yr arian yn mynd tuag at ward Meurig yn ysbyty Bronglais.

Y cyfarfod nesaf fydd y Cwrdd Dechrau’r Flwyddyn ar 1 Ionawr.

Clwb Garddio

CYNHALIWYD y parti Nadolig ar 8 Rhagfyr.

Roedd nifer o bosau a chwis wedi eu paratoi ymlaen llaw a bu tipyn o grafu pen a chloddio’n ddwfn i’r cof. Rhannwyd y gwobrau’n syndod o gyfartal a chafodd pawb wobr o’r raffl. Yna troi at y danteithion a baratowyd gan yr aelodau.

Y cyfarfod nesaf fydd y cinio blynyddol ar 12 Ionawr.

Clwb Croeso

AETH criw selog y Clwb Croeso i Glwb Golff Penrhos am eu cinio Nadolig ar 13 Rhagfyr, gan ddiolch am y glaw a ddaeth dros nos i glirio’r eira.

Cafwyd cinio ardderchog a phawb wedi cael ei weddill a’i wala.

Diolchwyd i Rhiannon Roderick am wneud y trefniadau ac am sicrhau rhaglen ddiddorol gydol y flwyddyn.

Neuadd Santes Ursula

AR nos Sul, 17 Rhagfyr, cynhaliwyd noson o Ganu Carolau yn y Neuadd.

Noson i’r gymuned i ymlacio a mwynhau’r canu oedd hon. Arweinydd y gân oedd Judith Jones a chyfeiliwyd gan Mary Morgan.

Cyfrannwyd eitemau unigol gan nifer o’r plant, Nia, Osian, Megan Aur a Glesni a darllenwyd stori yn Saesneg gan Sheila Warren a darn o farddoniaeth Gymraeg gan Eleri Hughes.

Yna mwynhaodd pawb y te a’r cacennau i ddilyn

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]