THE latest community news from Llangwyryfon

Merched y Wawr

DECHREUWYD y tymor newydd gyda noson yng nghwmni Geraint Lloyd, Lledrod.

Roeddem yn lwcus iawn ei fod yn medru dod atom oherwydd ei fod yn byw mor agos, gan fod yn rhaid iddo fod o fewn cyrraedd i stiwdio radio erbyn 9yh bob nos er mwyn paratoi ei raglen, ac mae ganddo stiwdio yn ei gartref.

Cawsom hanesion diddorol a digri am ei waith dros y blynyddoedd a throsolwg o sut mae datblygiadau ym myd technoleg wedi newid ei holl ddull o weithio dros y cyfnod.

Wrth baratoi rhaglenni i’w darlledu, mae wedi cael cyfle i wneud llawer o bethau diddorol a chyffrous, fel hedfan mewn hen awyren rhyfel, gyrru car James Bond, teithio i’r Ariannin a chlywyd am ei gamp yn rhedeg Ras yr Wyddfa.

Er iddo ddweud ei fod yn swil iawn pan yn iau, does dim arlliw o hynny erbyn hyn ac mae’n siarad yn rhugl heb orfod aros i chwilio am air. Mae’n cydnabod yn ddiolchgar ddylanwad mudiad y Ffermwyr Ieuanc yn ei ddatblygiad a’r profiad o gymryd rhan yn y Pantomeim yn Felinfach.

Cafwyd noson o fwynhad pur yn ei gwmni a dechrau bendigedig i weithgareddau’r flwyddyn.

Trefnwyr y noson oedd Myfanwy Williams a Judith Jones.

Clwb Croeso

AETH y trip blynyddol â’r aelodau i Raeadr yn gyntaf i weld gweithdy Welsh Crystal.

Er nad oedd yn bosibl cael gweld rhywun yn torri patrwm ar y gwydr, cafwyd esboniad ar y gwahanol batrymau a’r dull o weithio.

Roedd yr arddangosfa o’r gwahanol eitemau yn barod i’w gwerthu yn y siop yn ddigon o ryfeddod. Y cyfan oedd angen oedd pwrs arian diwaelod!

Ymlaen wedyn i Lanidloes a chrwydro rhai o’r siopau a mynd am ginio.

Aeth y bws â ni wedyn trwy’r mynyddoedd a’r golygfeydd anhygoel i weld argae Claerwen.

Aros yno am ychydig i fwynhau’r ehangder o dd?r llonydd a’r gwenoliaid yn gwibio uwch ei ben yn yr haul cynnes. Parhau ar yr ucheldir, gan ymddiried yn llwyr yn ein gyrrwr nes disgyn i lawr i Lanbrynmair. Paned o de yno mewn caffi lle mae modelau cywrain a chymleth yn symud a throi, a gardd cwningod tu allan.

Aeth gweddill y siwrnai yn ôl i Fachynlleth ac yna i Langwyryfon yn gyflym iawn.

Diolchwyd i Rhiannon Roderick am wneud y trefniadau i gyd eleni eto.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]