THE latest community news from Llangwyryfon

Cymdeithas Tabor

NOSON yn canolbwyntio ar rifau a gafwyd yn y Gymdeithas ar nos Lun, 5 Tachwedd gan i bawb fod â’u llygaid am i lawr wrth chwarae bingo.

Er ei bod yn dân gwyllt y tu allan roedd y festri yn dawel wrth i bawb glustfeinio am y rhifau ac ambell waedd o ‘llinell’ neu ‘t?’ yn torri ar y distawrwydd.

Treuliwyd noson ddifyr a phleserus, diolch i barodrwydd a haelioni Ifor Morgan, y galwr, oedd wedi gofalu am wobrau i bob enillydd.

Rhoddwyd y raffl gan Morris Hopkins ac fe’i henillwyd gan Carol Tandy.

Seiat Holi sydd ar y rhaglen ymhen pythefnos.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]