THE latest community news from Llangwyryfon
Clwb Garddio
MIS Mawrth yw mis y cwis blynyddol ac roedd Ifor Morgan, gyda’i ddiwydrwydd arferol, wedi paratoi tudalennau o atebion posibl i ni tra ei fod ef yn gofyn y cwestiynau.
Aeth pawb ati’n frwdfrydig a mawr y llawenhau pan lwyddwyd i gael ateb cywir.
Cymdeithas Tabor
CYNHALIWYD cinio blynyddol y gymdeithas yng Ngwesty Llety Parc, Aberystwyth ar 4 Mawrth.
Y g?r gwadd oedd y Cyng Rowland Rees Evans a chafwyd tipyn o hanes ei fywyd a’i yrfa addysgol. Roedd yn newydd i nifer ohonom iddo fod yn dipyn o seren yn y byd rygbi yn ei ieuenctid. Mae yn fwy adnabyddus yn diweddar fel dyn busnes a dyn cyhoeddus. Croesawyd ei wraig atom hefyd.
Ar noson ola’r gymdeithas am y tymor diolchwyd i’r swyddogion ac aelodau’r pwyllgor am baratoi rhaglen amrywiol ar ein cyfer gan gadeirydd y tymor nesaf sef Valerie Tawy.
Merched y Wawr
ROEDD yn bleser, i gael y garddwr a’r awdur a’r darlledwr, Huw Richards, i ddod atom i siarad am ei waith. Ar wahân i dyfu llysiau ayyb. yn ei ardd ei hun, mae’n bennaf nodedig am baratoi fideos ar-lein ar bob math o bynciau garddwriaethol.
Mae wedi paratoi ryw 450 ohonynt ac maent wedi cael eu gwylio’n fyd-eang erbyn hyn. Ar ben hynny mae newydd gyhoeddi ei lyfr cyntaf ac mae hyn i gyd wedi ei gyflawni erbyn ei fod yn 20 oed.
Ond wrth ei glywed yn siarad, nid yw hyn yn syndod, gan ei fod mor gwbl ymroddedig ac argyhoeddedig yngl?n â’r hyn mae’n ei wneud. Dechreuodd yn ifanc iawn o dan ddylanwad ei dad a’i dadcu ond mae ef wedi mynd â’r grefft o arddio i mewn i’r 21 ganrif trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Dymunwyd bod llwyddiant iddo yn y dyfodol a gobeithio y bydd ei lyfr yr un mor boblogaidd a dylanwadol â’i fideos.
Clwb Croeso
RYDYM yn lwcus iawn i gael siaradwyr arbennig yn y clwb bob tro, ond roedd siaradwr mis Mawrth y rhagoraf eto. Lee Coulson oedd hwn, un sydd wedi rhoi ei amser ers blynyddoedd bellach i gyflwyno chwaraeon llawn hwyl i blant ac oedolion sydd ag anabledd o ryw fath, boed yn gorfforol neu feddyliol. Yn ei d?b ef mae pawb yn gyfartal a phawb yn medru mwynhau cymryd rhan mewn gemau.
Mae’n rhedeg clybiau i bob oed yn Aberystwyth, Tregaron, ac Aberteifi ac yn cynnwys pethau fel pêl-droed cerdded, pêl-fasged cerdded a phêlfasged mewn cadair olwyn. Mae’n hyfforddi timau cenedlaethol ac ysgogi hyfforddwyr eraill ac wedi cael ei wobrwyo â’r British Empire Medal yn gydnabyddiaeth am ei waith.
Dangosodd luniau o rai o’i ddisgyblion wrthi’n chwarae a’r hyn oedd yn amlwg iawn oedd fod pawb mor hapus ac yn mwynhau cymryd rhan. Ei sylw o hyd oedd mor arbennig oedd y plant y gweithiai gyda hwy ond gallwn ddweud yr un peth amdano yntau – person arbennig iawn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.