THE latest community news from Llangwyryfon.

Merched y Wawr

AR 12 Rhagfyr cynhaliwyd y Cinio Nadolig blynyddol. Roedd pob aelod yn bresennol ar y daith i westy’r Hafod, Pontarfynach. Derbyniwyd ni’n groesawgar a’r bwrdd wedi ei osod yn chwaethus. Roedd dewisiadau diddorol a gwahanol ar y fwydlen.Ar ôl y gwledd cafwyd anerchiad gan ein gwraig wadd Cynthia Edwards, Cnwch Coch. Clywsom beth o’i hanes a’i phroblemau wrth geisio dysgu’r Gymraeg yng Nghaerdydd a hyn yn gwneud iddynt benderfynu symud, fel teulu, i ardal Gymreig fel bod y plant yn cael eu codi’n Gymry naturiol. Roedd yn uchel ei chlod o fudiad Merched y Wawr a’i ddylanwad a’i gefnogaeth o’r dysgwyr ac mae’n ymroi i ehangu’r dylanwad hwnnw trwy ei gwaith gyda’r Mudiad. Roedd hi’n ysbrydoliaeth i ni i gyd, ac yn gwneud i ni sylweddoli gymaint mwy y gallem wneud i helpu dysgwyr.Roedd trefniadau’r noson yng ngofal Jayne Jones ac Ann Ellis, a hwy hefyd gyfrannodd y raffl, a enillwyd gan Buddug Jones ac Aranwen Jarman.

Bydd y cyfarfod nesaf ar 9 Ionawr 2017, sef noson yng ngofal Mair Jones, Trem y Môr, a drefnir gan Beryl Jones.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]