THE latest community news Llangwyryfon

Merched y Wawr

CYNHALIWYD cyfarfod mis Hydref y gangen ar nos Lun, 9 Hydref.

Y gwesteion oedd Ifor a Myfanwy Lloyd, Pennant.

Dechreuodd Ifor trwy roi hanes ei yrfa ym myd canu, gwerthu ceir a bridio cobiau.

Clywsom storïau ddiddorol a chodi’r awydd i ddarllen mwy amdano yn un o’i lyfrau. Roedd yn bleser cael gweld y Rhuban Glas a enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r plac a gafodd fel Canwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Llangollen.

Yna daeth tro Myfanwy, i’n harwain trwy’r casgliad helaeth o esgidiau bychain a oedd yn gorchuddio’r bwrdd.

Rhai gwydr, rhai lledr, rhai pren, rhai tsieni, rhai copr, rhai wedi crosio neu wau a phob un yn wahanol.

Rhai wedi eu haddurno’n gywrain gyda blodau neu ruban neu anifeiliaid bach â phob un yn wledd i’r llygaid.

Mae wedi bod yn eu casglu ers derbyn yr esgid fach gyntaf yn 14 oed ac wedi gorfod adeiladu cwpwrdd arbennig i’w cadw.

Roedd yn fraint i gael cipolwg ar ran o’i chasgliad enfawr.

Bydd y cyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd ac edrychwn ymlaen at arddangosfa o goed Nadolig gan Olwen Jones.

Clwb Croeso

PRYNHAWN i’r aelodau a gafwyd ar 11 Hydref.

Roedd bron pawb wedi dod â rhywbeth a wnaethwyd ganddynt, gan ddweud ychydig amdano. Gwelwyd nifer o enghreifftiau o waith llaw wedi eu fframio, rhai mewn croesbwyth a rhai’n dangos amrywiaeth o bwythau cywrain, manwl; eitemau bach a mawr wedi eu gwau neu grosio; cardiau cyfarch o bob math gan ddefnyddio dull ‘Iris Folding’; plu pysgota; enghreifftiau o waith les, a gwaith coed o safon broffesiynol.

Trefnwyd prynhawn fel hyn unwaith o’r blaen, ond mae’n dal i beri syndod i weld cymaint o dalentau amrywiol mewn un pentref bach.

Byddai’n drueni mawr pe na bai’r sgiliau hyn yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]