THE latest community news from Llaniestyn

26 milltir

MAE Haf Henstad wedi cyflawni cerdded 26 milltir yng ngolau’r lleuad yn Llundain.

Merched y Wawr

EIN gwraig wadd mis Ebrill oedd Meinir Roberts, Llangian yn sôn am nyddu a gwau a gwahanol fathau o wlan.

Cafodd rhai gyfle i nyddu a gwau.

Gwnaethpwyd y te gan Nan, Gwen a Meryl a’r diolchiadau gan Catrin.

Llongyfarchiadau i Doris a Nerys ar ddod yn Bencampwyr Cymru am chwarae chwist ym Machynlleth yn ddiweddar.

Pwyllgor Ganolfan

DIOLCH i Marian Ty Ni am fod yn aelod newydd i’r pwyllgor.

Helfa Drysor Ganolfan

AR nos Wener, 22 Mehefin, am 6.30yh cynhelir helfa drysor, i gychwyn o’r Ganolfan, gyda cheir a lluniaeth ysgafn yn y Ganolfan i ddilyn.

Mae croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]