THE latest community news from Llaniestyn
Merched y Wawr
DAETH y tîm bowlio deg yn drydydd drwy ogledd Cymru, sef: Nia Ty Newydd, Nia Madryn Isaf, Marnel Ty’n Simdde, Carys Trefas, Carys Cae Ceuad a Mair Gwelfor.
I orffen am eleni aeth criw o aelodau i Cwrw Llyn lle cafwyd sgwrs ddiddorol am hanes sut y cychwynodd y diddordeb mewn bragu cwrw gan Iwan ap Llyfnwy.
Roedd yn hynod o noson braf ac roedd pawb wedi mwynhau.
Pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.
Yna aethom am swper i Nanhoron, Nefyn lle cafwyd swper ardderchog.
Helfa Drysor
CAFWYD Helfa Drysor ddifyr o amgylch Nanhoron, Mynytho a Llangian.
Enillwyr oedd Carys a Marnel a’r genod.
Roedd lluniaeth ysgafn wedi cael i drefnu gan aelodau’r pwyllgor.
Diolch yn fawr i Helen ac Ian am eu gwaith caled yn ei drefnu.
Ras Peli a Noson Goffi
BYDD Ras Peli a Noson Goffi yn cael ei gynnal yn y Ganolfan ar nos Wener, 7 Medi, am 6yh.
Radio
BRAF oedd clywed Gwilym Ty Newydd ar y radio yn sgwrsio am ffermio gyda Dai Thomas yn ddiweddar.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.