THE latest community news from Llaniestyn

Ras peli golff a noson goffi

CAFWYD noson dda yn y pentref yn gwylio’r peli yn rasio at y bont.

Enillwyd y wobrau gan: 1, Teulu Tanrallt, Llaniestyn; 2, Carwyn Evans, Llanbedrog; 3, Nia Parry, Ty Fair, Bryncoes.

Cafwyd noson goffi i ddilyn. Diolch i bawb am helpu a gwneud y noson yn llwyddiannus.

Merched y Wawr

I DDECHRAU’R tymor newydd daeth Bethan Bodwi atom i siarad am ei gwaith fel milfeddyg.

Roedd yn noson hynod o ddiddorol. Roedd ganddi lawer o straeon diddorol am ei gwaith a phawb wedi mwynhau.

Mae croeso cynnes i aelodau newydd i’r gangen, rydym yn cael llawer o hwyl a llawer o bethau diddorol wedi trefnu yn ein rhaglen.

Aeth aelodau i Griccieth i gymryd rhan yng Nghyngerdd Dathlu’r Aur Merched y Wawr (Rhanbarth Dwyfor).

Roedd yr aelodau yn canu cân wedi’i ysgrifennu gan Olwen Rhys.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarferion ac ar y noson.

Canolfan

NOS Fawrth, 24 Hydref, bydd bingo a lluniaeth ysgafn am 7.30yh.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]