THE latest community news from Lledrod

Llwyddiant

GWYR y cyfarwydd ein bod yn cofio eleni ac yn dathlu cyfraniad William Salesbury fel un o brif gyfieithwyr y Testament Newydd yn 1567. Fel rhan o’r dathliad cynigiwyd dwy ysgoloriaeth sydd werth £5,000 yr un i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phleser yw dweud mai Nest Jenkins, un o aelodau ifainc Chapel Rhydlwyd sy’n derbyn un ohonynt. Ar hyn o bryd mae Nest ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith. Pob dymuniad da.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]