THE latest community news from Tywyn.
Clwb Merched Nos Fawrth
HANNER can mlynedd wedi mynd heibio ers plannu’r hedyn bach o gyfeillgarwch gan wraig arbennig iawn, sef Nyrs Griffiths o Harlech, a welodd anghenion mamau ieuanc yn y 1960au, oedd, mae’n siwr, yn ddiglem ar sut i fagu plant a rhedeg cartref, ac unig, ar adegau.
Beth am i chi gyfarfod gyda’ch gi-lydd drost baned, a trin a thrafod.
Ar y dechrau cyfarfod yn nhy naill a’r llall wnaethwyd. Trwy “ddirgel ffyrdd” llwyddodd y nyrsys cymuned gael ystafell yn Isallt, lle y cyfarfum ar nos Fawrth, ddwy waith y mis.
Cafwyd pwyllgor, gyda cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd a phenderfynu ar alw y clwb yn “Young Wives”, be arall yn y “swinging 60’s”.
Erbyn hyn, rydym wedi cael dros 1,000 o gyfarfodydd, hynny yn golygu bwyta allan, mewn mwy na 100 o leoliadau, heb sôn am y gwahanol westeion yr ydym wedi eu croesawu ar hyd y blynyddoedd.
Rydym yn freintiedig yma yn Blaenau i gael trawsdoriad o ddoniau lleol yn barod i roi o’u hamser inni fel cymdeithas, yn gerddorion, awduron, haneswyr a llenorion.
Gwnaed dwy daith gerdded i gasglu arian i’r gymdeithas, un o Blaenau i Trawsfynydd, diolch i ferched Traws am y lluniaeth a ddiflanodd megis seren wib, yr ail daith o Blaenau i Dolwyddelen yn y glaw.
Un Nadolig buom o gwmpas yr ardal yn canu carolau, bu inni gystadlu efo côr adrodd yn Eisteddfod Llafar Bro, ac ennill, a chafwyd ffug Eisteddfod yn erbyn Merched y Gest, colli wnaethom, ond digon o hwyl.
Wedi cael mwynhau sioeau cerdd, operau a drama yn Venue Cymru.
Teithio hyd a lled y byd, o’r Ariannin i Nepal, ar fôr a thir, dysgu am fynyddoedd a llynnoedd, anifeiliaid o bob math trwy lygaid ein gwestion.
Troeon trwstan, fel bws yn torri i lawr ym mherfyddion Sir Fôn, a’r mamau parchus adref erbyn bre-cwast, buasai Merched y Wawr wedi bod yn well enw arnom y bore hwnnw!
Llwyddasom yn y 70au sefydlu “Play School” i’r plant oedd o dan oed ysgol.
Cyfarfum yn festri Tabernacle, byddai y mamau yn cymryd eu tro i helpu allan. Daeth yn amser inni symud o Isallt a bum yn ffodus i gael ystafell yn y Ganolfan Gymdeithasol, lle yr ydym hyd heddiw. Erbyn hyn, a ninnau ddim yn ”young”, rhaid oedd newid enw, a gan mae ar nos Fawrth y cyfarfum, galwyd y clwb yn “Wives Tuesday Club”, neu clwb Merched Nos Fawrth, fel ydym erbyn hyn.Heb ffyddlondeb yr aelodau ar hyd y blynyddoedd ni fuasem yn dathlu heddiw. Crëwyd cyfeillgarwch oes, rydym wedi bod trwy amseroedd hapus a thrallod a rhannu llwyddiant ein plant, ac erbyn hyn, plant ein plant.
Cofiwn am yr aelodau nad ydynt yma mwy, ac am weledigaeth y nyrsys cymunedol annwyl. Mae pedair o’r aelodau cyntaf yn dal yma, sef Ann Rushworth, Bet Roberts, Carys Jones a Glenys B Jones.
Talwn deyrnged i Nyrs Griffiths: Mawrhaf wrth ei haberth hi - yn uchel yr edrychaf arni; i ferch a edmygaf fi aed haeddiant, salwt iddi.
Dymunwn ddiolch i Iona Jones, o Font Newydd, am ddod yn westai inni yn y dathliad, i Serne am y “plaque” i gofio, i Annona Siop am y gacen wych, ac i staff Isallt am y wledd. Noson i’w chofio.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.