THE latest community news from Nefyn

Pensioners’ club

A MEETING was held on Tuesday, 4 September, with Mrs B W Jones in the chair.

Mrs Jones welcomed members and sent best wishes to members unable to attend.

Best wishes were sent to Mrs B L Jones who has been in hospital and sympathy was extended to Mrs J D’Aoust on the death of her brother.

Mrs Jones welcomed John Dilwyn Williams who gave a talk on Nefyn, illustrated with films of Nefyn past and present.

Mrs S Jones gave the vote of thanks for a nostalgic afternoon.

The next meeting will be the lunch on Tuesday, 2 October, the meeting will be at 1.15pm and not 1.30pm, members are asked to give names to Mrs B W Jones or Mrs E Poole as soon as possible.

Members are also requested to bring two bowls and two spoons.

Merched y Wawr

CYNHELIR cyfarfod cyntaf tymor newydd Merched y Wawr Nefyn nos Wener, 14 Medi, ac edrychir ymlaen am gael nosweithiau ac ambell i brynhawn difyr dros y misoedd nesaf.

Byddwn yn cyfarfod yng Ngwesty Nanhoron, ar yr ail nos Wener o bob mis am 7yh.

Cleifion T? Doctor Nefyn/Meddygfa Aelhaearn

OS ydych dros 65 mlwydd oed, yn dioddef o gyflwr cronig, neu os ydych chi’n ofalwr, mae gennych hawl i gael pigiad ffliw am ddim.

Bydd sawl clinig ffliw dros yr wythnosau nesaf, er mwyn ei wneud yn fwy cyfleus i gleifion allu mynychu eu hapwyntiad.

Bydd angen apwyntiad.

Cysylltwch â T? Doctor, Nefyn ar 01758 721851 neu Meddygfa Aelhaearn ar 01758 750514.

Bore coffi

CYNHALIWYD bore coffi gan Gyfeillion Plas Hafan Nefyn fore Mercher, 5 Medi, yn festri Capel Penlan.

Dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb a gefnogodd yr achlysur, a ddaeth â dros £600 o arian i mewn i’r coffrau.

Diolchir hefyd i bawb a gyfrannodd tuag at y stondinau ac i swyddogion y capel am gael defnyddio’r festri.

Bydd cyfarfod nesaf y Cyfeillion am 7.30yh nos Lun, 15 Hydref.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]