THE latest community news from Nefyn
Santa’s visit
SANTA will visit on Thursday, 29 November.
Starting at Glan Pwll at 6pm, he will head to Cefn y Twr and Plas Hafan for 6.15pm, Parc Nefyn at 6.30pm, Stryd Llan 6.45pm, Nant y Felin at 7pm, Bro Gwylwyr at 7.15pm and Stryd Fawr and Holborn between 7.35pm and 8pm.
Money raised will go towards Cylch Meithrin Nefyn and Pwllheli Rotary Club.
Merched y Wawr
CYFARFU Merched y Wawr Nefyn ar 9 Tachwedd.
Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni Daniel Evans, Tynllys a roddodd hanes taith a wnaeth ddechrau’r flwyddyn i Mandalay.
Diolchodd Margaret iddo am sgwrs mor ddiddorol.
Atgoffwyd yr aelodau fod y cinio Nadolig yn y Clwb Golff nos Wener, 14 Rhagfyr, ar y cyd â changen Morfa Nefyn.
Enwau, arian a dewis bwyd i’w roi i Dilys cyn y 7fed.
Trafodwyd rhai o faterion y mudiad ac atgoffwyd yr aelodau fod gwasanaeth Carolau’r Rhanbarth am 3.30yp ar brynhawn Sul, 2 Rhagfyr, yng Nghapel y Porth, Porthmadog a’r noson bowlio deg ar nos Iau, 10 Ionawr yng Nglasfryn.
Mae cyfarfod nos Wener, 11 Ionawr, wedi ei ganslo gan na fydd y gwesty yn agored.
Ffair Nadolig
CYNHELIR Ffair Nadolig Ysgol Nefyn yn y Ganolfan nos Lun, 26 Tachwedd, am 5yh.
Bydd y ffair yn dilyn goleuo’r goeden Nadolig a chanu carolau ar Groes Nefyn.
Yn y Ganolfan bydd mwy na 20 o fyrddau yn gwerthu nwyddau a danteithion.
Cyfle gwych i gael siopa Nadolig.
Bydd Sion Corn yn edrych ymlaen i groesawu’r plant yn ei groto.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.