THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

NOS Sul, 3 Mawrth, cafwyd gwasanaeth gan y Parch Christopher Prew ar y testun ‘Dwy Sylfaen’.

Nos Fawrth, 5 Mawrth, cafwyd Dathliadau G?yl Dewi ac ymuno â Chapel Isa yn y Nanhoron gyda Chôr y Golff yn diddanu.

Cyn hynny yn y bore, cafwyd Cyfarfod Gweddi y Mis Undebol yn Soar gyda’r Parch Glenys Jones, gyda paned a chrempog blasus i ddilyn.

Ar 10 Mawrth ‘roedd y gwasnaeth yng ngofal y Parch Arthur Meirion Roberts – Y Salm 1af ‘Nid Gweddillion yw Dilynwyr Crist Heddiw ond Cnewyllun i Gyhoeddi’.

Ar 17 Mawrth cafwyd gwasanaeth gan y Parch Glenys Jones gyda Hanes Iesu yn gysylliedig â’r moroedd, Y Môr Coch a Môr Galilea.

Yna, ar 24 Mawrth, y Parch Dewi Morris oedd yn cynnal y gwasanaeth – ‘Edifarhewch wedi ei lefaru ym medydd Crist a’r tri temptiad’.

Ar 31 Mawrth roedd y Parch R O Roberts yn pregethu – Luc Pennod 19 (41 i 46) – Edrych at Jeriwsalem, Dagrau Crist, Chwilio am Y Duw Cuddiedig. Ceisio cael a derbyn y gweddill.

Ladies Club

DEBORAH Stephens of Mama Step-Hens Crafts brought her sewing machine and iron which she used while showing members the various stages she works through to create the textile embellished bags and hen doorstops which she sells along with other craft items which she produces.

The next meeting is on 4 April at the Nanhoren Hotel at 7.45pm when Judith Shenton and her ‘Arabian Nights’ will be welcomed back.

Disgo Pasg

CYNHELIR Disgo Pasg yn y Ganolfan, ar nos Lun, 8 Ebrill rhwng 5yh a 6yh.

Mynediad £1 y plentyn (plant dan wyth oed hefo oedolion yn unig)

Cynhelir cystadleuaeth het/cap y Pasg, lluniaeth ysgafn ar werth, raffl a bydd holl elw’r noson yn mynd i’r Cylch Meithrin yn Nefyn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]