THE latest community news from New Cross
Treialon Cwn Defaid New Cross a’r Cylch
AR ddydd Sadwrn, 29 Gorffennaf, cynhaliwyd treialon cwn defaid ar gae Brenan, trwy garedigrwydd y teulu Davies.
Benthycwyd hefyd dros 300 o ddefaid gan y teulu a chafwyd ddiwrnod hyfryd a heulog i’r amryw wylwyr a’r rhedwyr cwn, gyda 109 o rediadau yn ystod y dydd.
Y beirniad eleni oedd Ieuan Jones, Penbwlch, Llanfarian, a dyfarnodd y gwobrwyon fel a ganlyn:
Dull Cenedlaethol Agored: Y wobr gyntaf sef tarian her Mr E J O Evans yn cael ei ennill gan Martha Morgan, Tregaron, gyda’i chi Gill.
Rhoddwyd yr ail wobr i Meirion Jones, Maesybont gyda Nan a’r trydydd i Angie Driscoll, Llanllawddog gyda Pippi.
Dull De Cymru Agored: Y wobr gyntaf a thlws arian yn rhoddedig gan Mr a Mrs John George, Llwyn-y-Brain, yn cael ei ennill gan John Wheaton, Port Talbot gyda Kim.
Rhoddwyd yr ail wobr i Dewi Jenkins, Talybont gyda Bill, a’r trydydd i Eirian Morgan, Aberystwyth, gyda Craig.
Dull Cenedlaethol Nofis: Y wobr gyntaf a tharian yn rhoddedig gan y pwyllgor, yn cael ei ennill gan Meirion Jones gyda Nan.
Rhoddwyd yr ail wobr i I B Jones, Capel Bangor gyda Bella, a’r trydydd i Irwel Evans, Ystrad Meurig, gyda Fly.
Dull De Cymru Nofis: Y wobr gyntaf a tharian yn rhoddedig gan Mr a Mrs Hugh Lewis, Penbanc, yn cael ei ennill gan John Wheaton gyda’i gi Kim.
Rhoddwyd yr ail wobr i Dewi Jenkins gyda Bill a’r trydydd i Angie Driscoll gyda Mazi.
Diolchodd y trysorydd, Hugh Lewis a’r ysgrifennydd, John George i deulu Brenan am gael benthyg y cae a’r defaid ac i bawb am wneud y diwrnod yn un llwyddiannus eleni eto, cyn cyhoeddi’r canlyniadau.
Diolchwyd hefyd i Tom Lewis a Lewis Hamer am fod yn gyfrifol am ollwng y defaid allan o’r lloc gwaelod trwy gydol y dydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]