THE latest community news from Penrhyndeudraeth

Cangen Deudraeth

ROEDD y nos Lun olaf o Fedi eleni ddim gwahanol i llynedd na’r blynyddoedd yn y gorffennol.

Hon yw’r noson bydd aelodau Merched y Wawr yn edrych ymlaen at gael y cyfarfod cyntaf o sesiwn 18/19.

Eto, fel yn y blynyddoedd a fu roedd gennym swyddogion newydd – a’r ddwy aelod pwysig am eleni yw Gwen Roberts, y llywydd a Gwenda Paul, yr ysgrifennydd.

Mae gennym flwyddyn ddiddorol o’n blaenau.

O westeion difyr yn siarad, cinio Nadolig yn Gwesty’r Heliwr ym Mhorthmadog a thrip ar ddiwedd ein blwyddyn i Fodnant.

Digon at ddant pawb. Awydd ymuno yn yr hwyl, dowch, rydym yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa ar nos Lun olaf yn y mis.

Mae’r gwmnïaeth a’r adloniant yn dda i’r enaid medda nhw.

Margaret Hughes, Brychyni oedd ein gwestai gwadd yn y cyfarfod agoriadol a dewisodd siarad am ‘Byw a Bod a Bwydo’.

Mae Margaret Hughes yn fam i 10 o blant a 28 o wyrion ac wyresau.

Dynes sydd wedi ymdopi efo llwyth gwaith enfawr rhwng y bwydo, y mwytho a meithrin y plant i fod yn oedolion cyfrifol.

Wrth wrando arni yn dweud ei stori teimlwn petai andros o ffrwydriad yn digwydd gerllaw ni fuasai yn cynhyrfu o gwbl.

Dychmygwn hi yn torchi ei llawes gan ddweud ‘reit be ydw’i am wneud rwan i wella’r sefyllfa!’

Roedd yn berson mor ddiymhongar ag agos atoch.

Cawsom hunangofiant byr o’i bywyd o’i phlentyndod, drwy ei gyrfa fel cogyddes yng Ngholegau Bangor ag yna yn magu’r plant yn Brychyni.

Mae’n amlwg fod yr aelodau wedi mwynhau, roedd yr ymateb iddi yn dweud hynna.

Cyn ei throi hi am adra cawsom baned a chacen – diolch i’r pwyllgor am yr arlwy.

Cofiwch am nos Lun, 29 Hydref, yn y Neuadd Goffa.

PCSO Paula Stewart ein plismones leol fydd y gwestai gwadd.

Llun: Gwen Roberts, llywydd Cangen Deudraeth yng nghwmni y gwestai gwadd Margaret Hughes, Brychyni.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]