THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr
ELENI, dymuniad y llywydd cenedlaethol, Meirwen Lloyd, oedd i’r canghennau wario ychydig o amser yn casglu sbwriel yn eu pentrefi.
Tasg hawdd meddwn wrth fy hun, wedi’r cwbl mae glanhau a thwtio yn rhan annatod o gadw t? i bob dynes.
Penodwyd prynhawn Sadwrn ganol mis Mawrth i ni ddechrau ar y gwaith gan gyfarfod am 2yp yr ochr draw i’r pympiau petrol yn garej Alan Green yma yn y Penrhyn.
Roedd Meryl, merch Gwen Roberts, llywydd Cangen Deudraeth am oruchwylio’r gwaith, person addas iawn tybiwn gyda’i phrofiad o gasglu sbwriel efo criw Gwerin y Coed. T
ua chanllath yn unig oedd angen ei glirio felly dyma roi’r menyg rwber, gafael yn y ‘grabbers’, estyn y bagiau sbwriel a gwisgo’r siacedi melyn iechyd a diogelwch.
Credwn y buasem tua rhyw hanner awr fach cyn ei throi hi am adra i gael paned o de – anghywir!
Cymerodd dros ddwy awr i ni glirio’r canllath o dir o amgylch y garej.
Wel, sôn am agoriad llygad! Roeddem i gyd wedi dychryn ar weld saith bag yn llawn o ganiau a photeli cwrw gwag, caniau coke a lemonêd, heb sôn am focsys bwyd a phacedi crisps gwag.
Ond yn goron ar y cwbl oedd y bag plastig yn llawn efo chwech ‘nappy’ budr ynddo.
A hynna ond o fewn canllath o dir yn unig.
Y wers yw – cofiwch fynd a’ch sbwriel adra hefo chi.
Table top sale
A TABLE top sale will be held in the church hall of the Holy Trinity Church on Saturday, 6 April, from 10am.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.