THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr Cangen Deudraeth
CYCHWYNNODD Gwen Roberts cyfarfod mis Mawrth drwy ddymuno yn dda i’r tair aelod sy’n derbyn triniaeth yn dilyn eu hymweliad â’r lori Mamogram ym Mhorthmadog a Ddolgellau yn ddiweddar.
Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn ôl yn ein cyfarfodydd yn fuan iawn.
Yna, cafodd Gwen y pleser o groesawu dwy aelod newydd i’n plith. Gobeithio iddynt fwynhau eu noson gyntaf yng Nghangen Deudraeth. Band Ieuenctid Rhanbarth Eifionydd oedd ein gwesteion mis Mawrth. Croesawyd John Glyn yr arweinydd a’i ddisgyblion atom am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd yna 17 o blant yn y band, pob un yn cychwyn ar y llwybr o feistroli offeryn cerdd â phob un ohonynt yn ymarfer adref yn gyson meddant nhw, heb sôn am gyfarfod bob nos Wener i ymarfer efo John Glyn.
Tybiwn fod y nifer o ddisgyblion yn y band wedi tyfu ers llynedd ac i’r arweinydd mae’r clod am hyn.
Mae ganddo ffordd wych o dynnu’r gorau o’i ddisgyblion. Cawsom unawdau gan Lewis, Beca Dwyryd, Ellis Pugh, Osian, Emma Roberts, Huwcyn a David gydag amrywiaeth o offerynnau o ffliwt, piano, cornet, euphonium i’r Delyn.
Ond oherwydd diffyg gofod yn y Wylan mi wnâi ganolbwyntio ar ddau ddisgybl sydd â chysylltiad â Phenrhyn yn yr adroddiad yma. Morgan yw’r cyntaf a drymiwr y band. Dyn pwysig iawn sydd yn cadw amseru’r band yn gywir.
Mae Morgan yn gyn-ddisgybl Ysgol Cefn Coch ac yn mynychu Ysgol Harlech r?an.
Yna, Emma Buckley, mae hi wedi ennill ar y delyn yn yr Urdd a mae hefyd yn wyres i Bronwen Buckley, aelod o’r gangen sydd ar hyn o bryd ym Mryn Meddyg, Llanaelhaearn.
Roedd digon hawdd gweld fod gan Emma ddyfodol disglair o’i blaen wrth i ni wrando arni yn chwarae’r delyn.
Pleser pur oedd gwrando ar bob un o’r disgyblion a diolch am ymroddiad John Glyn a rhieni’r disgyblion am arwain y plant ar y ffordd gywir ar ddechrau eu bywydau.
Mis nesaf rydym yn ôl yn stafell gefn y Neuadd Goffa, 29 Ebrill am 7yh. Eirlys Jones Roberts fydd yn ein diddanu ac rydym yn parhau ar y thema o gerddoriaeth.
Mi fydd yn sôn am ddysgu cerdd dramor.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.